Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn dweud bod yr Ystadegau Diweithdra diweddaraf yn newyddion cadarnhaol i Gymru

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r Ystadegau Marchnad Lafur diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos gostyngiad…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r Ystadegau Marchnad Lafur diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos gostyngiad sylweddol mewn diweithdra. Mae’n golygu bod y lefel yng Nghymru nawr yn unol a’r darlun cyffredinol ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng misoedd Ionawr a Mawrth 2011 yn cadarnhau bod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 7.7%, gostyngiad o 0.7%.  Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod lefelau cyflogaeth wedi codi 0.9% ers y chwarter diwethaf, a bod lefelau a chyfraddau anweithgarwch economaidd wedi gostwng.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn newyddion cadarnhaol i Gymru, gyda gostyngiad mawr mewn lefelau diweithdra.  Mae hyn yn arwyddocaol, gan fod y lefel yng Nghymru nawr yn unol a’r darlun cyffredinol yn y DU ac mae’n cadarnhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir wrth i ni geisio ailadeiladu’r economi tuag at adferiad cynaliadwy.

“Mae’r cynnydd yn lefelau cyflogaeth a’r gostyngiad yn lefelau anweithgarwch economaidd hefyd yn newyddion da.  Fodd bynnag, mae angen i ni ymdrechu’n galetach nag erioed er mwyn sicrhau mai dyma’r math o ffigurau y byddwn yn eu gweld mwyach.  Mae economi Cymru yn dal i wynebu nifer o heriau ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos a Llywodraeth Cymru a gyda’r aelodau Cabinet sydd newydd eu penodi ar y mater pwysig hwn er lles pobl Cymru.”

Nodiadau**

Y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru oedd 68.5%, cynnydd o 0.9%.  Roedd lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 12,000 ers y chwarter diwethaf i 1.347m.

Y gyfradd anweithgarwch economaidd oedd 25.6%, gostyngiad o 0.4% ers y chwarter diwethaf.  Roedd lefelau anweithgarwch economaidd yn 485,000, gostyngiad o 7,000.

Y gyfradd diweithdra oedd 7.7%, gostyngiad o 0.7% ers y chwarter diwethaf, a gostyngiad o 1.6% ers y llynedd.  Y gyfradd diweithdra yn y DU oedd 7.7%, gostyngiad bychan ers y chwarter diwethaf (0.1%) sydd hefyd 0.3% yn is na’r un chwarter yn 2010.

Cyhoeddwyd ar 18 May 2011