Ysgrifennydd Cymru yn dweud bod y ffigurau ffyniant diweddaraf yn “siomedig dros ben” i Gymru
Wrth ymateb i’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dangos bod Cymru wedi llithro ymhellach ar ei hol hi yng nghynghrair…
Wrth ymateb i’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dangos bod Cymru wedi llithro ymhellach ar ei hol hi yng nghynghrair ffyniant y DU, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, fod hyn yn siomedig dros ben.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’n siomedig dros ben fod ffigurau heddiw yn dangos mai Cymru oedd y rhan dlotaf o’r DU ym mlwyddyn olaf y Llywodraeth flaenorol a bod y bwlch ffyniant gyda gweddill y DU yn cynyddu.
“Mae lefel ffyniant yng Nghymru’n is bellach na’r hyn ydoedd pan grewyd Cynulliad Cymru ym 1999 ac mae’n gryn dipyn yn is na’r lefel ym 1989 dan Lywodraeth ddiwethaf y Ceidwadwyr.
“Ers i ni ddechrau llywodraethu ym mis Mai, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wyrdroi’r sefyllfa rydym wedi’i hetifeddu ac wedi symud yn gyflym i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad a rhoi hwb i dwf economaidd.
“Mae ffigurau heddiw yn dangos maint y dasg o’n blaenau i weddnewid economi Cymru a bydd yn ein gwneud yn fwy penderfynol fyth o fynd i’r afael a’r bwlch amlwg rhwng ffyniant Cymru a ffyniant gweddill y DU. Bydd y Llywodraeth glymblaid hon yn parhau i weithio gyda Chynulliad Cymru i gymryd camau uniongyrchol i adfer hyder ymysg busnesau, annog mwy o dwf yn y sector preifat a buddsoddiad i mewn i Gymru.”