Stori newyddion

Yr ail farwolaeth ym mhwll Glo’r Gleision yn peri tristwch i Ysgrifennydd Cymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi mynegi ei thristwch wrth glywed y newyddion bod ail farwolaeth wedi cael ei chadarnhau ym…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi mynegi ei thristwch wrth glywed y newyddion bod ail farwolaeth wedi cael ei chadarnhau ym Mhwll Glo’r Gleision.

Yn gynharach bore yma, roedd Mrs Gillan wedi cwrdd a theuluoedd y glowyr a oedd yn rhan o’r digwyddiad ym Mhwll Glo Pontardawe.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae hwn yn ddiwrnod anodd iawn i bawb dan sylw ac mae’n ddrwg calon gennyf glywed y newyddion bod ail farwolaeth wedi cael ei chadarnhau.  Mae’r drasiedi hon wedi cyffwrdd pawb mewn cymuned glos iawn.  A minnau newydd gwrdd a’r teuluoedd, rwyf yn gwybod eu bod yn cael cryn gysur o’r geiriau o gefnogaeth maent wedi’u derbyn nid yn unig o’r DU ond o bedwar ban byd. 

“Rydym yn meddwl am y teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn wrth iddynt aros yn bryderus am newyddion am eu hanwyliaid.  Carwn roi teyrnged i ymdrechion y gymuned gyfan a mudiadau megis y Groes Goch a Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched sydd wedi dod ynghyd i ddarparu cysur gwerthfawr iawn i bawb dan sylw.

“Mae hon yn ymdrech weithredol, barhaus a phroffesiynol iawn sy’n cynnwys yr holl wasanaethau brys.  Mae eu gwaith caled a’u hymdrechion cyson yn sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud.

“Rwyf wedi sicrhau’r teuluoedd ein bod ar draws y Llywodraeth wedi gweithio i sicrhau bod y gwasanaethau achub yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”

Cyhoeddwyd ar 16 September 2011