Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ymgynghoriad ar ganlyniadau, manteision ac anfanteision awdurdodaeth gyfreithiol ar wahan i Gymru ar 27 Mawrth…
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ymgynghoriad ar ganlyniadau, manteision ac anfanteision awdurdodaeth gyfreithiol ar wahan i Gymru ar 27 Mawrth.
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mewn ymateb: “Rwyf wedi darllen y ddogfen ymgynghori a diddordeb ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniad yr ymarfer.
“Mae hwn yn flaenoriaeth annisgwyl gan Lywodraeth Cymru, ac nid wyf yn hollol glir ynghylch y broblem sydd angen sylw. Sut fyddai newid o’r fath o fudd i bobl neu fusnesau yng Nghymru?
“Mae’r system gyfredol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi gweithio’n dda i Gymru am ganrifoedd. Does dim rheswm newid er mwyn newid.
“Gan fod hwn yn agenda y mae’r Prif Weinidog yn benderfynol o fwrw ymlaen ag ef, rwyf eisoes wedi trafod y mater yn fanwl a’r Ysgrifennydd dros Gyfiawnder, Swyddogion Cyfraith Llywodraeth y DU ac uwch aelodau’r Farnwriaeth.”