Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i gyhoeddiad RWE ar gyfleuster niwclear Wylfa B
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i’r cyhoeddiad gan RWE Npower ac E.ON na fyddant yn buddsoddi yn y cyfleuster niwclear…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i’r cyhoeddiad gan RWE Npower ac E.ON na fyddant yn buddsoddi yn y cyfleuster niwclear arfaethedig, Wylfa B, yng Ngogledd Cymru.
Meddai Mrs Gillan:
“Mae’r newyddion hwn wrth gwrs wedi fy siomi, ond rwy’n argyhoeddedig o hyd mai Wylfa yw’r safle gorau ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear y genhedlaeth nesaf.
“Mae gan Ynys Mon bron i 50 mlynedd o brofiad o’r diwydiant niwclear ac mae wedi meithrin sgiliau heb eu hail. Mae hyn yn rhoi i mi’r hyder y bydd y safle yn Wylfa yn atyniadol i fuddsoddwyr eraill.
“Rwyf wedi siarad gydag RWE am y rhesymeg y tu ol i’r penderfyniad masnachol hwn, ac rwy’n bwriadu cwrdd a nhw cyn gynted a phosib.
“Fe wnaeth y Gweinidog dros Ynni fy mriffio i. Bydd ef a minnau, ac ein hadrannau, yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd a byddwn yn gweithio i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad atyniadol i fuddsoddwyr ynni.”