Datganiad i'r wasg

Ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymosodiadau Paris

Stephen Crabb: "Mae Cymru’n sefyll fel un gyda Paris"

Wrth ymateb i erchyllterau Paris, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Roedd y golygfeydd dychrynllyd welson ni ar strydoedd Paris neithiwr yn weithredoedd terfysgol ffiaidd i’n hysgwyd ni, ein rhannu ni a dinistrio ein cred gref mewn goddefgarwch a rhyddid.

Mae’r ffaith bod Paris wedi gorfod dioddef dwy bennod mor arswydus mewn cyfnod o flwyddyn y tu hwnt i gred ac mae ein calonnau ni’n gwaedu dros y ddinas yma. ’Fyddwn ni byth yn anghofio am golli cymaint o fywydau diniwed mewn digwyddiad mor drasig, dan law llofruddwyr dieflig.

Mae fy nghyswllt personol i â’r ddinas ac â chenedl Ffrainc wedi gwneud digwyddiadau’r 24 awr diwethaf yn anos fyth i’w deall.

Rydw i’n meddwl am bawb yn Ffrainc sydd wedi colli anwyliaid ac yn gweddïo drostyn nhw, a’r cymunedau Ffrengig yma yn y DU. Mae Cymru’n sefyll fel un gyda chi. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i herio eithafiaeth a therfysgaeth yn ei holl ffurfiau.

Cyhoeddwyd ar 14 November 2015