Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

David Jones: “Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market

Mae ein ffocws ar sefydlogi economi’r DU a hyrwyddo twf bellach yn talu’i ffordd, yn ôl David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth i ffigurau swyddogol a ryddhawyd heddiw ddangos na fu erioed fwy o bobl mewn gwaith ledled y DU.

Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (22 Ionawr 2014) wedi datgelu cynnydd o 21,000 yn nifer y bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru dros y chwarter diwethaf. Roedd y ffigurau eisoes ar y lefel uchaf erioed.

Mae diweithdra’n parhau i syrthio ledled Cymru, gyda gostyngiad o 12,000 dros y chwarter diwethaf. Mae diweithdra ymysg pobl ifanc hefyd wedi gweld gostyngiad o 600 y mis hwn, gyda 5,000 yn llai o bobl ifanc yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith o’i gymharu â’r adeg yma’r llynedd.

Mae Anweithgarwch Economaidd, ar y lefel isaf a gofnodwyd erioed, o ran lefel a chyfradd. Yn y chwarter diwethaf, bu gostyngiad o 16,000 yn y nifer o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru, gyda’r bwlch rhwng y DU a Chymru’n lleihau, a Chymru’n gweld y canran mwyaf o ostyngiad o holl wledydd a rhanbarthau’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd David Jones:

Mae ein cynllun hirdymor yn gweithio, gan na fu erioed fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru, nac yn wir ar draws y DU. Yn ogystal, rydym wedi gweld gostyngiadau yn niferoedd y rhai sy’n economaidd anweithgar.

O ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi gwneud penderfyniadau anodd, mae’r DU yn gweld adferiad cryf, ac un cyflymach, yn enwedig o’i gymharu â’n cymdogion Ewropeaidd. Rydym yn gosod sylfeini cryf ar gyfer diogelu teuluoedd a busnesau sy’n gweithio’n galed, yn y dyfodol.

Yng Nghymru, mae yna optimistiaeth gynyddol; rydym yn dangos dro ar ôl tro ein bod wedi ymroi i greu’r amodau cywir ar gyfer pobl sy’n dyheu am wneud yn dda. Yn olaf, mae dod â’n cynllun Cymorth i Brynu i Gymru’r mis hwn wedi rhoi hwb hollbwysig i’r diwydiant adeiladu.

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio’n agosach â ni, ac yn enwedig i edrych ar y llu o enghreifftiau llwyddiannus lle yr ydym yn hyrwyddo twf, a’u sefydlu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 22 January 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 January 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.