Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i’r Ystadegau ar y Farchnad Lafur

Heddiw, [20fed Mehefin 2012] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diweithdra yng Nghymru, ond…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, [20fed Mehefin 2012] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diweithdra yng Nghymru, ond hefyd anogodd Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i barhau i fod yn wyliadwrus yn yr hyn y mae hi’n ei galw’n farchnad lafur heriol a chymhleth.

Mae ystadegau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) heddiw yn datgan bod diweithdra wedi disgyn am y pedwerydd mis yn olynol, fodd bynnag, cafwyd lleihad mewn cyflogaeth a chynnydd mewn anweithgarwch economaidd.   Mae cyfradd a lefel anweithgarwch economaidd wedi disgyn o gymharu a’r un chwarter y llynedd.  Mae cyfradd y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra hefyd wedi parhau i fod yn sefydlog o gymharu a ffigyrau’r mis diwethaf.    

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae ffigyrau heddiw’n dangos bod cryn ffordd i fynd eto cyn y gall lefelau cyflogaeth wella, er gwaethaf y ffaith bod diweithdra’n lleihau yng Nghymru.  Nid yw Cymru wedi’i gwarchod rhag ansicrwydd ardal yr ewro a’r hyn sydd mewn gwirionedd yn farchnad lafur gymhleth a heriol ar hyn o bryd.

“Rhaid i ni barhau i fod yn benderfynol gyda’n hymdrechion i roi digon o gyfle i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru ehangu a chreu swyddi newydd er mwyn i economiau lleol barhau i fod yn gryf.  Mae cyfradd diweithdra yng Nghymru’n parhau i fod yn ddangosydd y mae’n rhaid i ni ei wella, gan weithio gyda’n gilydd fel dwy Lywodraeth i greu’r amodau iawn ar gyfer twf er mwyn i Gymru allu denu’r buddsoddiad a’r ffyniant sydd eu hangen arni.”

Nodiadau i olygyddion:

  • 68.0% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, gostyngiad o 0.4% ers y chwarter diwethaf.  
  • Roedd y gyfradd diweithdra yn 9.0%, gostyngiad o 0.1%
  • 25.2% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd, cynnydd o 0.5% ers y chwarter diwethaf a 0.1% yn llai na’r un chwarter y llynedd  
  • Roedd cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra yn **5.6% **ym mis Mai, yr un fath a mis Ebrill 2012 a 0.5% yn uwch o gymharu a’r llynedd.  
  • Roedd lefel y bobl ifanc sy’n hawlio  budd-daliadau diweithdra yn 25,900, cynnydd o** 2,600 **ers mis Mai 2011.
Cyhoeddwyd ar 20 June 2012