Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diweithdra wrth i ystadegau diweddaraf y farchnad lafur…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu’r gostyngiad parhaus mewn diweithdra wrth i ystadegau diweddaraf y farchnad lafur gael eu cyhoeddi heddiw [23 Ionawr]. 

Mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diweithdra wedi disgyn 1,000 yng Nghymru dros y chwarter diwethaf, gyda diweithdra ymysg pobl ifanc yn dal i ddisgyn.  

Fodd bynnag, yn ystod yr un cyfnod, roedd nifer y bobl mewn cyflogaeth wedi disgyn 28,000 o’r chwarter diwethaf ac roedd anweithgarwch economaidd wedi cynyddu 24,000.  

Dywedodd Mr Jones: 

“Mae hi wedi bod yn anodd osgoi’r sialensiau mae busnesau wedi’u hwynebu’n ddiweddar. Fodd bynnag, croesewir y gostyngiad parhaus mewn diweithdra, diweithdra ymysg pobl ifanc a diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc. Rwyf hefyd yn falch bod cyflogaeth wedi codi 17,000 yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. 

“Rwyf yn credu y gallwn barhau i adeiladu ar hyn gyda’r estyniad i gynllun Contract Ieuenctid Llywodraeth y DU - sy’n darparu cyfleoedd prentisiaeth a lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed - i Gymru gyfan. Mae hyn yn golygu y cynigir cymhelliant cyflog o hyd at £2,275 i gyflogwyr pan fyddant yn rhoi gwaith i unigolyn ifanc sydd wedi bod ar fudd-daliadau am o leiaf chwe mis. 

“Ar ol gweld arwyddion calonogol ar gyfer ffigurau cyflogaeth Cymru dros y misoedd diwethaf, mae ystadegau heddiw yn ein hatgoffa bod llawer iawn o waith eto i’w wneud i gadw Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer adferiad economaidd, felly mae’n siomedig gweld bod nifer y bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru wedi disgyn dros y chwarter diwethaf.  

“Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Rwyf yn falch iawn y bydd Prif Weinidog Cymru yn siarad yn yr Uwchgynhadledd Swyddi y bydd Swyddfa Cymru yn ei chynnal fis nesaf.”  

 

Nodyn i Olygyddion: 

I gael rhagor o fanylion am ffigurau heddiw http://www.ons.gov.uk/ons/publications/re-reference-tables.html?edition=tcm%3A77-253064   
 
Astudiaeth achos Contract Ieuenctid:  

Mae DAU o bobl a oedd yn ddi-waith bellach yn ol yn gweithio ar ol cael lle mewn canolfan ceffylau sydd ag enw da ym mhedwar ban byd.  

Mae’r ddau wedi cael eu cyflogi gan y David Broome Event Centre yng Nghil-y-coed, Sir Fynwy, gan weithio ar y nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yn iard y stablau.  

Roedd Kim Sealey, 20, a Stephen Reynolds, 24, yn cael eu helpu yn eu hymdrech i gael gwaith gan Working Links, sy’n darparu Rhaglen Waith Llywodraeth y DU ledled Cymru. Roedd tim gwasanaethau cyflogwyr arbennig Working Links wedi sicrhau’r swyddi gwag drwy’r fenter Contract Ieuenctid newydd, sy’n rhoi hyd at £2,275 i gyflogwyr ar gyfer pob unigolyn 18-24 oed maent yn rhoi gwaith iddynt o’r Rhaglen Waith.  

Cafodd y ddau help ar eu taith hefyd gan fudiad partner Working Links sef Hyfforddiant Torfaen. 

Dywedodd Rita Read, ysgrifennydd yn Broome & Company ac sy’n gyfrifol am recriwtio personel yn y David Broome Event Centre: “Roeddem yn gobeithio cyflogi cwpl o bobl i helpu ar y maes arddangos ac un arall i weithio ar yr iard, felly pan glywon ni am y Contract Ieuenctid roedd yn rhaid i ni gael gwybod mwy.  

“Mae hi’n gret helpu pobl ddi-waith i ddod o hyd i waith - yn enwedig pobl ifanc sydd a diddordeb mewn ceffylau, a dyna gawson ni gan Working Links. Mae gennym ni nifer o ddigwyddiadau ar hyn o bryd felly rydym ni’n eu cadw’n

brysur iawn ond maen nhw’n ymdopi’n dda iawn. Os byddwn yn recriwtio eto, byddwn yn troi at Working Links yn y lle cyntaf yn bendant.” 

Dywedodd Jennie Lawton, rheolwr partneriaeth Working Links: “Mae’r recriwtiaid newydd yn gwneud nifer o bethau gwahanol yn y ganolfan ac maen nhw wedi ennill nifer o sgiliau newydd.” 

 I gael gwybod rhagor am Working Links neu sut gall y Contract Ieuenctid helpu busnesau, ffoniwch 0800 917 9262 neu ewch i www.workinglinks.co.uk

Cyhoeddwyd ar 23 January 2013