Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Heddiw [14 Tachwedd], croesawodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cynnydd parhaus mewn cyflogaeth yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [14 Tachwedd], croesawodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cynnydd parhaus mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod lefel cyflogaeth Cymru wedi codi 13,000 dros y chwarter diwethaf. Mae Cymru wedi gweld y pumed cynnydd mwyaf mewn cyflogaeth o’r holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Mae wedi dyblu’r cynnydd cyfartalog mewn cyflogaeth sef 0.4 y cant o’i gymharu a 0.2 y cant ledled y DU drwyddi draw.

Dros y chwarter diwethaf, mae diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi disgyn 5,000 a 4,000 y naill a’r llall. Fodd bynnag, er bod nifer y bobl ifanc sy’n hawlio wedi disgyn ychydig, mae’r nifer sy’n hawlio’n gyffredinol wedi codi am yr ail fis o’r bron.

Dywedodd Mr Jones:

“Mae’r ystadegau cyflogaeth diweddaraf yn dangos bod economi Cymru yn gwella. Mae’n gwneud yn well na rhannau eraill o’r DU, gyda 13,000 yn rhagor o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru dros y chwarter diwethaf, a 34,000 yn rhagor dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n amlwg bod y sector preifat yn dechrau gwthio’r twf yng Nghymru.

“Rwy’n gwybod y rhoddwyd croeso cynnes i’r buddsoddiad gan y cwmni technoleg o Japan, Hitachi Ltd, mewn gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Mon, ac mae hyn yn dangos bod Cymru yn lle da i fuddsoddi.

“Mae mis arall o ystadegau cyflogaeth gwell yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gosod yr amodau ar gyfer twf a’n bod yn dechrau gweld y manteision.

“Wrth gwrs, mae rhagor eto i’w wneud ac ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Fodd bynnag, mae’r ffigurau hyn yn dangos ein bod wedi bod yn iawn i sefydlogi economi’r wlad drwy ganolbwyntio ar dorri’r diffyg a chaniatau mwy o ryddid i fusnesau ddatblygu.”

Cyhoeddwyd ar 14 November 2012