Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Lefelau cyflogaeth gwell nag erioed yng Nghymru yn arwydd cadarnhaol o adferiad economaidd cryf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market

Mae cynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth hon yn gweithio i bobl Cymru, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a siaradai heddiw wrth i ffigurau swyddogol ddangos cynnydd pellach mewn lefelau cyflogaeth yng Nghymru.

Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (18 Rhagfyr 2013) yn dangos cynnydd o 24,000 yn nifer y bobl gyflogedig yng Nghymru dros y chwarter diwethaf. Roedd y ffigurau eisoes yn uwch nag erioed o’r blaen gynt.

Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru hefyd wedi disgyn i lefel is nag erioed o’r blaen, gostyngiad o 24,000 dros y chwarter diwethaf. Mae diweithdra yng Nghymru 7,000 yn is dros y chwarter diwethaf, ac mae lefel diweithdra ymhlith pobl ifanc hefyd 900 yn is dros y mis diwethaf.

Mae nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru 1,300 yn llai ers Hydref 2013 ac mae 12,700 yn llai nag oedd ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi ei ffigurau Cyflogaeth Sector Cyhoeddus heddiw, ac mae’r rhain yn dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, y cynnydd canrannol mwyaf mewn cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o blith holl ranbarthau eraill y DU. Ers Q1 yn 2010, mae nifer y bobl a gyflogir yn y sector preifat yng Nghymru wedi cynyddu 100,000.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae’r gwelliant amlwg hwn yn safle Cymru yn y farchnad lafur yn arwydd cryf, nid yn unig ein bod yn dyst i economi sy’n tyfu, ond bod y twf hwnnw’n prysuro’n gyflym.

Mae cyfradd cyflogaeth Cymru wedi cynyddu mwy nag unrhyw ranbarth arall yn y DU, ac mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi disgyn fwy yng Nghymru na holl wledydd a rhanbarthau’r DU. Mae’r ffigurau hyn, law yn llaw â newyddion yr wythnos ddiwethaf mai yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn canolrif enillion wythnosol o blith holl ranbarthau’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dangos ein bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir tuag at adferiad economaidd cryf. Mae’n amlwg mai’r sector preifat sy’n sbarduno’r twf yma.

Fodd bynnag, ni allwn laesu’n dwylo. Roedd cyhoeddiad Sharp yr wythnos hon eu bod yn bwriadu diddymu swyddi yn ei safle yn Wrecsam, yn nodyn sobreiddiol i’n hatgoffa o’r sialensiau sylweddol sydd o’n blaenau.

Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnal perthynas glos gyda busnesau ar lawr gwlad yng Nghymru a chanolbwyntio ar greu’r amodau priodol ar gyfer galluogi iddynt greu swyddi, er mwyn sicrhau bod y tueddiad cynyddol tra derbyniol hwn mewn ffigurau cyflogaeth yn parhau.

Cyhoeddwyd ar 18 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 December 2013 + show all updates
  1. Adding translation

  2. First published.