Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur
Mae ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw [11 Medi] yn dangos cynnydd cyson, ond mae llawer i’w wneud o hyd, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS.
Mae’r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos bod y tueddiadau cyflogaeth yr ydym wedi’u gweld mewn mannau eraill yn y DU, i’w gweld yng Nghymru hefyd.
Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi gostwng 7,000 dros y chwarter diwethaf, a 14,000 ers yr adeg hon y llynedd. Mae nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru hefyd wedi cynyddu 1,000 yn ystod y chwarter diwethaf.
Mae nifer y bobl sy’n hawlio lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru hefyd wedi gostwng 1,500 ers mis Gorffennaf. Fodd bynnag, mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi cynyddu dros 11,000 dros y chwarter ac ar hyn o bryd mae 3,000 yn uwch nag ym mis Awst 2012.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
I atseinio geiriau’r Canghellor yn ei araith yn gynharach yr wythnos hon, mae’r cynnydd cyson hwn yn y ffigurau cyflogaeth yn dangos bod yr economi’n troi cornel a bod ein cynllun economaidd yn gweithio.
Mae nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru’n dal i gynyddu, gyda 1,000 yn ychwanegol mewn gwaith yn ystod y chwarter diwethaf. Nid oes mwy o bobl erioed wedi bod mewn gwaith, ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Er bod y ffigurau anweithgarwch economaidd yng Nghymru’n siomedig, rydyn ni wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn diweithdra – ac mae hynny i’w groesawu.
Mae’n amlwg ein bod ni wedi cyflawni llawer iawn yn barod. Gwelwyd cynnydd mewn allforion yn ogystal â hyder ymhlith busnesau. Roeddwn yn falch o weld y cwmnïau a ddaeth i dderbyniad busnes Swyddfa Cymru yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf, i gyd yn llawn gobaith ar gyfer y dyfodol.
Mae llawer i’w wneud o hyd, ond rydyn ni’n datblygu adferiad cytbwys, cynaliadwy ac eang ei sail, sy’n gweithio i bobl Cymru ac yn sicrhau y gall Prydain gystadlu yn y ras fyd-eang.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 September 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.