Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur
Ysgrifennydd Cymru: Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy o waith a llai o anweithgarwch economaidd
Heddiw [17 Gorffennaf 2013] mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur. Maent yn dangos bod ffigurau cyflogaeth yng Nghymru wedi parhau i godi gyda 13,000 yn fwy o bobl mewn gwaith dros y chwarter. Dros y flwyddyn, mae 25,000 yn fwy mewn gwaith yng Nghymru.
Mae diweithdra ymysg yr ifanc yn dal i ostwng am y pedwerydd mis yn olynol ac mae anweithgarwch economaidd ledled Cymru wedi gostwng 14,000 dros y chwarter diwethaf. Mae hyn yn ostyngiad o 15,000 dros y flwyddyn a fu.
Yng Nghymru gwelwyd cynnydd mwy yn y gyfradd gyflogaeth a’r gostyngiad mwyaf yng nghyfradd yr anweithgarwch economaidd nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr neu wlad ddatganoledig arall dros y chwarter diwethaf.
Dywedodd David Jones:
Mae’n deyrnged i’r gymuned fusnes yng Nghymru sy’n arwain y ffordd gyda mwy o waith a llai o anweithgarwch economaidd.
Yn aml iawn mae’r agwedd at economi Cymru yn un nawddoglyd, ond yn dilyn yr Uwchgynhadledd Swyddi a gynhaliwyd gennyf yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf rwy’n gwybod bod cyfoeth o dalent ifanc sy’n awyddus i weithio. Clywais gan gyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith sydd, fel ei gilydd, yn awyddus i sicrhau eu lle o fewn y gweithle ac i ysgogi economi Cymru.
Felly mae’n codi fy nghalon i weld y ffigurau cyflogaeth diweddaraf yn dangos y newid hwn. Bydd hyn yn digwydd yn raddol ac ni fyddaf yn gorffwys ar fy rhwyfau o gwbl. Rwyf wedi ymroi i helpu Cymru i sicrhau mwy o ffyniant.
Nodiadau i Olygyddion
*I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204.
*Cynhaliwyd ail Uwchgynhadledd Swyddi Swyddfa Cymru yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam ar 12 Gorffennaf.
*Roedd Uwchgynhadledd Swyddi Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyflogaeth i bobl ifanc yn y sector Busnesau Bach a Chanolig a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.
*Daeth dros 50 o randdeiliaid i’r digwyddiad, a’r rheini o’r llywodraeth, llywodraeth leol, cyrff busnes, cwmnïau lleol a sefydliadau cyflogadwyedd.
*Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Swyddi gyntaf yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd ar 4 Chwefror 2013.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 July 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.