Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn Ymateb i Ffigurau’r Farchnad Lafur

Mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur yn dangos bod angen ymdrech gyson a phendant i greu’r amgylchedd iawn ar gyfer swyddi a thwf yng Nghymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur yn dangos bod angen ymdrech gyson a phendant i greu’r amgylchedd iawn ar gyfer swyddi a thwf yng Nghymru, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones. 

Mae ffigurau heddiw (20 Chwefror) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos gostyngiad parhaus yn nifer yr hawlwyr yng Nghymru. 

Fodd bynnag, er bod y DU wedi gweld cynnydd mewn ffigurau cyflogaeth yn gyffredinol, mae diweithdra wedi codi 6,000 yng Nghymru, ac roedd nifer y bobl mewn gwaith wedi disgyn 14,000 ers y chwarter diwethaf. Mae’r ffigurau hefyd yn dangos cynnydd mewn diweithdra ymysg pobl ifanc.  

Dywedodd Mr Jones: 

“Er gwaethaf arwyddion calonogol dros y misoedd diwethaf, mae ystadegau’r farchnad lafur heddiw yn amlwg yn siomedig i Gymru. 

“Er fy mod yn croesawu’r gostyngiad parhaus yn nifer yr hawlwyr, mae’r cynnydd mewn diweithdra dros y chwarter diwethaf yn dangos bod llawer o waith eto i’w wneud i sicrhau bod digon o amodau ar gyfer twf, a bod cyfleoedd go iawn i bobl Cymru ddangos beth gallant ei wneud. 

“Mae’r cyhoeddiad wythnos diwethaf bod Virgin Media ar fin creu 230 o swyddi yn Ne Cymru yn dangos bod cyfleoedd i fusnesau dyfu ac adeiladu, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd. 

“Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol ei bod am fynd i’r afael a’r materion rydym yn eu hwynebu. Yn gynharach y mis hwn, cynhaliais yr uwchgynhadledd swyddi gyntaf ar gyfer Cymru a oedd yn canolbwyntio ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc yn y sector busnesau bach a chanolig. Mae busnesau a sefydliadau o Fon i Fynwy yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch sut mae cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc, ac roeddwn wrth fy modd yn croesawu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a siaradodd yn y digwyddiad.

“Mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i alinio eu polisiau i ddenu rhagor o fuddsoddiad a chyfleoedd i fusnesau yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. 

“Rhaid mynd ar drywydd dull Cymru gyfan i sicrhau bod Cymru yn elwa o’r gwelliannau a welir yn narlun y farchnad lafur ar lefel y DU.”

Cyhoeddwyd ar 20 February 2013