Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n ymateb i ffigurau GYC

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wedi ymateb i’r ystadegau Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) a ryddhawyd heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

GVA statistics published today

Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai yng Nghymru y cafwyd y cynnydd uchaf ond dau mewn GYC y pen o’r holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Roedd y twf mewn GYC y pen hefyd yn uwch nac ar draws y DU yn gyffredinol.

Fodd bynnag, mae Cymru’n parhau i fod â’r GYC isaf y pen o unrhyw wlad ddatganoledig neu ranbarth o Loegr; mae GYC y pen yng Nghymru bron i 28% yn is na chyfartaledd y DU.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dengys y ffigurau GYC a ryddhawyd heddiw fod ein hymdrechion i gydbwyso economi’r DU eto yn dwyn ffrwyth, a bod Cymru’n elwa o bolisïau economaidd y Llywodraeth hon.

Mae’n galonogol fod y bwlch mewn GYC y pen yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi lleihau o’i gymharu â chyfartaledd y DU.

Fodd bynnag, pery Cymru â’r GYC isaf yn y DU, ac mae’r sefyllfa honno wedi aros yr un am ymhell dros ddegawd. Rhaid i’n holl ymdrechion – yn llywodraethau Cymru a’r DU - ganolbwyntio ar newid hynny.

Yr oedd Datganiad Hydref y Canghellor yr wythnos diwethaf wedi’i anelu at bobl ifanc, teuluoedd a busnesau; a chadarnhaodd ein blaenoriaeth fod y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar helpu pobl sy’n gweithio’n galed yng Nghymru.

Mae’r Llywodraeth hon yn ymestyn ystod o fesurau i helpu bron i 200,000 o Fentrau Bach a Chanolig ledled Cymru i gael gwell mynediad at gyllid drwy ddyblu’r Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach am 12 mis arall o 1 Ebrill 2014. Hefyd, bydd Canolfan Byd Gwaith yn ymestyn eu gwasanaethau i ddarparu cymorth i bobl ifanc 16-17 oed sydd eisiau cael gafael ar brentisiaeth a chyfleoedd hyfforddi. Yn ogystal, mae’r mesurau yn cynnwys ei gwneud yn haws i fusnesau gyflogi pobl ifanc drwy gael gwared â chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer pobl ifanc dan 21 oed sy’n ennill llai na £813 yr wythnos.

Bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn parhau i helpu Cymru a gweddill y DU aros ar y llwybr tuag at adferiad.

Cyhoeddwyd ar 11 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 December 2013 + show all updates
  1. Adding Welsh translation

  2. First published.