Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i sefyllfa’r cynhyrchwyr llaeth
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan: “Rwyf newydd gael sgwrs ddefnyddiol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd…
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan:
“Rwyf newydd gael sgwrs ddefnyddiol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Caroline Spelman, am sefyllfa ddiweddaraf cynhyrchwyr llaeth.
“Fe wnaeth fy sicrhau y bydd hi a’r Gweinidog Amaeth, Jim Paice, yn cwrdd a ffermwyr a phroseswyr yn y Sioe Frenhinol Cymru i geisio cael cytundeb terfynol ynghylch cod ymarfer gwirfoddol. Llywodraeth y DU sydd wedi trefnu’r cyfarfod arwyddocaol hwn a Jim Paice fydd yn cadeirio.
“Mae’r gostyngiadau yn y prisiau yn ergyd ddifrifol i ffermwyr llaeth, yn enwedig yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn am gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y datblygiadau hyn, a gobeithio y bydd modd datrys y sefyllfa cyn gynted a phosib.
“Byddaf yn mynd i’r Sioe Amaethyddol gyda Caroline Spelman ddydd Llun, a byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda phawb sy’n ymwneud a’r broses o gyflenwi a gwerthu llaeth bryd hynny.”