Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ddatganiad yr Hydref

“Bydd mesurau’r Canghellor yn ysgogi twf yng Nghymru” Heddiw (5 Rhagfyr 2012), croesawodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y mesurau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

“Bydd mesurau’r Canghellor yn ysgogi twf yng Nghymru”

Heddiw (5 Rhagfyr 2012), croesawodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref, a fydd yn hybu cyfleoedd twf ac yn helpu i adfer cydbwysedd yn economi Cymru.

Bydd busnesau ac unigolion yng Nghymru yn elwa o ganslo’r cynnydd arfaethedig yn y dreth tanwydd ym mis Ionawr 2013, ac o ohirio’r cynnydd mewn chwyddiant, a oedd wedi’i fwriadu ar gyfer mis Ebrill, tan fis Medi. Bydd y gyrrwr cyffredin yn arbed £40 y flwyddyn, a chludwyr yn arbed £1,200 y flwyddyn.

Bydd y 193,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn elwa o gynnydd dros dro yn y Lwfans Buddsoddi Blynyddol, o £25,000 i £250,000 am ddwy flynedd.  Bydd hyn, ynghyd a lleihad ychwanegol o un y cant ym mhrif gyfradd y dreth gorfforaeth i 21% o 2014 ymlaen, yn parhau i wella cystadleurwydd y wlad.

Bydd y cynnydd yn y Lwfans Personol i £9,440, sy’n fwy na’r cynnydd o £1,100 a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yn gynharach eleni, yn golygu na fydd yn rhaid i 13,000 o bobl yng Nghymru dalu treth o gwbl. Bydd hyn o fudd i 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru.

Bydd safleoedd yn Ardaloedd Menter Glynebwy a Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn cael 100 y cant o lwfansau cyfalaf uwch ar gyfer ffatrioedd a pheiriannau i gefnogi twf a buddsoddiad.

O ganlyniad i’r mesurau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys heddiw,

bydd Cymru’n elwa o £277 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf. Bydd cyfanswm o £674 miliwn o arian ychwanegol, felly, wedi’i roi i Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant hwn.   

Ac yntau’n croesawu’r cyhoeddiadau, dywedodd Mr Jones:

“Yn Natganiad yr Hydref heddiw, mae’r Canghellor wedi pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth hon i sefydlogi’r economi ac ysgogi twf ledled y DU.

“Bydd y cyhoeddiadau a wnaed heddiw yn cael effaith sylweddol yng Nghymru. O fusnesau i unigolion, mae Datganiad yr Hydref yn dangos bod y llywodraeth hon yn hybu buddsoddiad ac yn gwobrwyo gwaith caled.

“Rwy’n gwybod y bydd y penderfyniad i ganslo’r cynnydd arfaethedig yn y dreth tanwydd yn cael ei groesawu ledled Cymru, nid dim ond yn rhannau mwyaf gwledig ein gwlad lle mae car yn angenrheidiol. Mae pris litr o betrol ar gyfartaledd 10 ceiniog yn rhatach nawr na phe baem wedi parhau a’r cynnydd yn y dreth a oedd wedi’i fwriadu gan y Llywodraeth flaenorol.  Bydd y penderfyniad hwn yn helpu cryn dipyn ar deuluoedd a busnesau, yn yr un modd a’r cynnydd ym mhensiwn y wladwriaeth, a’r gefnogaeth a roddir i fusnesau bach a chanolig drwy’r cynnydd yn y Lwfans Buddsoddi Blynyddol.

“Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar opsiynau cyllido i wella’r M4 yn Ne Cymru. Mae’r rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr a thrafodaethau ar argymhellion Comisiwn Silk a chyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllid Cymru. Bydd y Llywodraeth yn ymateb yn ffurfiol i Ran 1 adroddiad Comisiwn Silk yn y gwanwyn.

“Mae’r Llywodraeth hon yn parhau i flaenoriaethu busnesau a thwf ac rwy’n falch y bydd y safleoedd yn Ardaloedd Menter Glynebwy a Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn cael 100 y cant o lwfansau cyfalaf.  

“Rydym yn rhoi mesurau ar waith ar gyfer twf, a bydd Llywodraeth Cymru yn cael £277 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref eleni. Dylai fanteisio ar y cyfle hwn i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel a’n helpu i ysgogi twf yn economi Cymru.

“Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (14 Tachwedd 2012) yn dangos bod lefel cyflogaeth Cymru wedi codi 13,000 dros y chwarter diwethaf.  Roedd y cynnydd yng nghyfradd cyflogaeth Cymru ddwywaith yn fwy na’r cynnydd ar gyfartaledd ar draws y DU gyfan. Mae cyfanswm diweithdra yng Nghymru wedi cwympo 5,000 dros y chwarter diwethaf, a 14,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i roi’r amodau ar waith i gefnogi teuluoedd a busnesau, wrth sefydlogi’r economi a chefnogi twf economaidd hirdymor ar draws Cymru a’r DU ar yr un pryd.”

Mesurau eraill a gyhoeddwyd heddiw yw y bydd Casnewydd yn dod yn ddinas cysylltiad cyflym a fydd yn elwa o gyfran o bot cyllid o £50 miliwn i wella ei seilwaith digidol.   Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn elwa o bartneriaeth £38 miliwn i adeiladu Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012).

Nodiadau i Olygyddion**

I gael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad y Canghellor, ewch i:

http://www.hm-treasury.gov.uk/

Cyhoeddwyd ar 5 December 2012