Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: “Bydd gwelliannau i’r rheilffyrdd yn creu rhwydwaith trenau modern a chadarn i’r DU

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, heddiw [28 Ionawr] wedi canmol y cyhoeddiad am Drenau Cyflym 2, sy’n cadarnhau y bydd y rhwydwaith …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, heddiw [28 Ionawr] wedi canmol y cyhoeddiad am Drenau Cyflym 2, sy’n cadarnhau y bydd y rhwydwaith trenau cyflym yn dod i ogledd-ddwyrain Lloegr.

Yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet yn Leeds y bore hwn, mae Mr Jones wedi ymweld a Chanolfan Xcel yn Swydd Durham i ddysgu beth fydd safle Amazon Park Hitachi yn ei olygu i ddyfodol y rheilffyrdd.

Cyfarfu Mr Jones a chynrychiolwyr o Hitachi Rail Europe, sy’n arwain datblygiad cerbydau trenau’r genhedlaeth newydd y byddant, yn y pendraw, yn teithio ar y llinell reilffordd drydanol arfaethedig i Abertawe. Bydd Hitachi yn adeiladu 596 o gerbydau tren newydd, gan wneud 92 o drenau 5 cerbyd a 9 cerbyd, fel rhan o’r Rhaglen Intercity Express (IEP) a’u bwriad yw lleoli eu cyfleuster gweithgynhyrchu Ewropeaidd newydd yn Amazon Park yn Newton Aycliffe, Swydd Durham. Bydd Depo Gwasanaethu hefyd yn cael ei godi yn safle Maliphant Abertawe, nid nepell o Orsaf Abertawe, gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2015. Cyfarfu Mr Jones hefyd a Business Durham, Cyngor Sir Durham a Merchant Place Developments.

Meddai Ysgrifennydd Cymru David Jones:

“Mae cyhoeddiad heddiw wedi amlygu ymhellach ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu rhwydwaith trenau modern a chadarn ledled y DU, rhywbeth sy’n hanfodol er mwyn i’r DU allu cystadlu yn ras fyd-eang y dydd sydd ohoni.

“Rwy’n falch dros ben bod Crewe yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiad un pwrpas ochr yn ochr a’r llinell gyflym, gan greu cysylltiad gwerthfawr i bobl sy’n teithio i Ogledd Cymru ac yn ol.

“Mae Cyngor Sir Durham wedi dangos sut fydd eu gwaith yn annog cwmniau mawr, megis Hitachi, i leoli yn yr ardal yn talu ar ei ganfed i’r dyfodol. Mae’n wers i awdurdodau lleol eraill a gwn oddi wrth fy mherthynas gadarn gyda Hitachi eu bod yn ystyried eu hunain yn fwy na mewnfuddsoddwyr, yn hytrach maent yn ystyried eu hunain yn rhan annatod o’r gymuned leol.

“Bydd adeiladu’r Depo Gwasanaethu yn Abertawe yn 2015 yn creu swyddi sydd gwir eu hangen ac yn denu cyfleoedd busnes i’r de, ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn datblygu.”

Meddai Keith Jordan, Rheolwr Gyfarwyddwr Hitachi Rail Europe:

“Gan ein bod wedi llwyddo i gwblhau’r contract ar gyfer y Rhaglen Intercity Express yn 2012, yn 2013 bydd gwaith, sy’n hanfodol ar gyfer cyflenwi’r prosiect, yn dechrau mewn nifer o ardaloedd: mae tu mewn y Trenau Super Express ar hyn o bryd yn cael ei ddylunio gan gwmni o’r DU, DCA Design, mae Hitachi Rail Europe wedi meddiannu depo North Pole ac mae 250 o lwythi o rwbel wrthi’n cael ei gludo o safle Stoke Gifford bob dydd er mwyn i ni allu meddiannu’r safle hwnnw. Bydd y gwaith yn dechrau’n fuan yn Newton Aycliffe, a bydd hyn yn gwbl hanfodol i gyflenwi trenau eithriadol i deithwyr yn y DU.”

Meddai’r Cyng Neil Foster, aelod o Gabinet Cyngor Sir Durham dros adfywio economaidd:

“Bydd safle newydd arfaethedig Hitachi Rail Europe yn Newton Aycliffe yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol Swydd Durham. Yn ogystal a chreu cannoedd o swyddi a rhoi hwb i’r economi leol, bydd y safle hefyd yn arwain at fod adeiladu trenau, ymchwil a pheirianneg trenau yn dychwelyd i’r ardal a oedd mor dyngedfennol i’w dechreuad.”

Nodyn i’r Golygyddion:

• Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, wedi cynnal nifer o apwyntiadau lefel uwch gyda chynrychiolwyr o Hitachi, gan feithrin cysylltiadau pwysig yng nghyswllt eu buddsoddiadau yn y rheilffyrdd ac mewn ynni niwclear yn y DU.

• Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth gymeradwyo contract gwerth £4.5bn i gyflenwi trenau Intercity y genhedlaeth nesaf i wasanaeth dyddiol fis Gorffennaf diwethaf. Mae denu cyfleuster Hitachi i Durham yn gam economaidd pwysig iawn i ogledd ddwyrain Lloegr.

• Mae Agility Trains, sy’n gonsortiwm sy’n cynnwys Hitachi a John Laing, wedi ennill y contract i adeiladu a chynnal a chadw’r trenau dan y Rhaglen Intercity Express (IEP), y prosiect i adnewyddu trenau Intercity 125 Prydain gyda threnau newydd, modern capasiti uwch.

• Bydd Hitachi yn cydosod y fflyd Intercity o 92 o drenau cyflawn (596 o gerbydau) mewn ffatri drenau newydd sbon yn Newton Aycliffe, wedi’i datblygu gan Merchant Place Developments.

• Caiff 730 yn rhagor o swyddi crefftus eu creu, ynghyd a 200 o swyddi eraill yn ystod gwaith adeiladu’r ffatri, a bydd yn diogelu miloedd yn rhagor o swyddi yng nghadwyn gyflenwi’r DU.

• Bydd y cwmni hefyd yn lleoli ei ddoniau datblygu ac ymchwil trenau Ewropeaidd ar y safle a bydd hyn yn gwella ymhellach allu’r ffatri i ennill contractau rheilffordd ledled Ewrop.

• Yn ogystal ag adeiladu’r cyfleuster cydosod newydd diweddaraf, bydd Hitachi hefyd yn adeiladu depos cynnal a chadw ym Mryste, Abertawe, gorllewin Llundain a Doncaster, a bydd yn uwchraddio’r depos cynnal a chadw presennol ledled Prydain.

• Bydd fflyd drenau’r IEP yn cynnwys trenau trydan a dau ddull, rhai yn bum cerbyd o hyd a’r lleill yn naw cerbyd. Bydd y rhain yn darparu mwy o seddi ym mhob tren yn ogystal ag yn codi cyflymder ynghynt na’r trenau presennol, a bydd ganddynt y potensial o gynnig gwasanaethau amlach.

• Disgwylir i’r gwaith adeiladu yn safle Newton Aycliffe ddechrau yn 2013 a bydd yn gweithredu’n llawn erbyn 2015. Bydd y trenau IEP cyntaf yn dechrau gwasanaethu ac yn ennill refeniw ar Brif Linell y Great Western yn 2017 ac ar Brif Linell Arfordir Dwyrain Lloegr erbyn 2018.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymwelwch a www.hitachirailproject.co.uk

Cyhoeddwyd ar 28 January 2013