Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Araith y Frenhines yn hybu peiriannau twf ac yn gwobrwyo gwaith caled

Dywedodd Stephen Crabb heddiw (27 Mai) y bydd Araith y Frenhines yn cryfhau safle Cymru o fewn y DU ac yn sicrhau lle canolog i bobl sy’n gweithio.

The Queen in her carriage

Dywedodd Mr Crabb y byddai ymagwedd Un Genedl Llywodraeth y DU yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn y Senedd ddiwethaf i helpu i greu swyddi, twf economaidd a chyfiawnder cymdeithasol i bawb yng Nghymru sydd am lwyddo.

Mae’r Biliau yn yr araith a fydd o fudd i Gymru’n cynnwys:

  • Bil Cymru a fydd yn arwain at setliad datganoli mwy eglur a sefydlog fel y cytunwyd arno yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi;
  • Bil Menter a fydd yn cael gwared ar fiwrocratiaeth ac yn arbed o leiaf £10 biliwn i fusnesau bach yn ystod y pum mlynedd nesaf.
  • Bil Lwfans Treth Bersonol i godi’r trothwy enillion pan fydd pobl sy’n gweithio’n dechrau talu treth incwm i £12,500 – sy’n codi’r trothwy o’r lefel bresennol o £10,600.
  • Bil Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd i gynnal pleidlais i Mewn / Allan ar aelodaeth Prydain o’r UE erbyn diwedd 2017 i roi llais i’r DU a dewis gwirioneddol yn Ewrop.
  • Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles i sicrhau bod gwaith yn talu’n hytrach na dibynnu ar fudd-daliadau i roi tegwch i’r trethdalwr ond gan helpu’r bobl yn yr angen mwyaf.
  • Bil Mewnfudo i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi teuluoedd gweithgar Prydeinig yn gyntaf drwy fynd i’r afael ar fewnfudo anghyfreithlon ac amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Stephen Crabb:

Bydd Araith y Frenhines heddiw yn cryfhau safle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig drwy fwrw ymlaen â chytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Mae’n hybu peiriannau twf ac yn sicrhau lle canolog i bobl sy’n gweithio yn sgil mesurau radical sy’n gwobrwyo gwaith caled.

Ein blaenoriaeth yw dal ati i sicrhau’r adferiad economaidd i Gymru a gwneud yn siŵr bod pob rhan o’r wlad yn elwa arno. Mae hynny’n golygu buddsoddi mewn seilwaith, annog menter a chefnogi busnesau bach.

Ar yr un pryd rydym yn gwneud yn siŵr bob pobl ar yr incwm isaf yn cadw mwy o’r arian maent yn ei ennill. Byddwn yn parhau i ddiwygio lles fel y bydd pobl yn cael help i fynd yn ôl i weithio – ond bydd y rhai sydd angen help yn ei gael.

Mae’r araith hon yn adeiladu ar ein cyflawniadau yn y Senedd ddiwethaf ac mae’n pennu’r cyfeiriad tymor hir ar gyfer gwlad uchelgeisiol a llwyddiannus.

Biliau Allweddol i Gymru

Mae’r rhan fwyaf o’r Biliau yn Araith y Frenhines yn berthnasol i Gymru, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol. Byddant yn dod â buddiannau pwysig i bobl yng Nghymru sy’n gweithio, yn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn cryfhau’r cysylltiadau sy’n ein huno fel Teyrnas Unedig. Maent yn cynnwys:

Bil Cymru:

  • Bydd yn gwneud datganoli’n fwy eglur drwy gyflwyno model ‘cadw pwerau’ - y system sydd eisoes ar waith yn yr Alban. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu deddfu ar unrhyw bwnc oni bai ei fod wedi’i gadw’n benodol i Senedd y DU.
  • Bydd yn cryfhau datganoli yng Nghymru drwy drosglwyddiad hanesyddol pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn grymuso’r Cynulliad i reoli ei faterion ei hun, i newid ei enw, a phenderfynu sut y bydd ei aelodau’n cael eu hethol. Bydd y Bil hefyd yn datganoli pwerau ychwanegol i Gymru mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni a’r amgylchedd.

Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles:

  • Byddwn yn cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i rewi prif gyfraddau’r rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio.
  • Lleihau lefel y cap budd-daliadau yng Nghymru, gan sicrhau bod gwaith yn talu; sicrhau tegwch i’r trethdalwr; a pharhau i gynorthwyo’r sawl sydd yn yr angen mwyaf.
  • Mae hyn yn parhau ag ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. Er 2010, mae 24,000 yn llai o aelwydydd heb waith yng Nghymru a 34,000 yn fwy o blant yn gweld eu rhieni’n mynd allan i weithio am y tro cyntaf.

Bil Menter:

  • Cael gwared ar ragor o fiwrocratiaeth a chynnig mwy o help i’r 230,000 o fusnesau bach yng Nghymru sy’n hanfodol i economi Cymru.
  • Creu gwasanaeth cymodi ar gyfer busnesau bach i helpu i ddatrys anghydfodau rhwng busnesau, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â thaliadau hwyr.

Bil Sylweddau Seicoweithredol:

  • Bydd yn gwahardd cynhyrchu, dosbarthu, gwerthu a chyflenwi sylweddau seicoweithredol newydd.
  • Mae’n rhoi sylw i bryderon penodol a godwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n cytuno bod angen cymryd camau deddfwriaethol ar y cyfle cyntaf i leihau’r effaith ar gymunedau a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.

Bil Eithafiaeth:

  • Bydd yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ac yn amddiffyn pobl drwy fynd i’r afael ag eithafiaeth.
  • Yn dilyn yr ymosodiadau erchyll ym Mharis yn gynharach eleni, bu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â grwpiau ffydd yng Nghymru i gadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael ag eithafiaeth yn ein cymunedau. Bydd y Bil hwn yn cryfhau ein gallu i wneud hynny.

Bil Mewnfudo:

  • Rhoi teuluoedd gweithgar ledled Cymru, a gweddill y DU, yn gyntaf.
  • Dod o hyd i fewnfudwyr anghyfreithlon, mynd i’r afael â cham-fanteisio ar weithwyr ar gyflogau isel a gosod gwaharddiad mwy pendant ar fynediad at wasanaethau i fewnfudwyr anghyfreithlon.

Bil Undebau Llafur:

  • Sicrhau bod streiciau’n ganlyniad penderfyniadau pendant, positif a diweddar gan aelodau undebau.
  • Sicrhau nad amherir ar bobl weithgar ledled y wlad gan weithredu diwydiannol sydd heb gefnogaeth eang.
Cyhoeddwyd ar 27 May 2015