Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn rhoi’r iaith Gymraeg wrth galon y gwaith o lunio cwestiwn y refferendwm

Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ei bod wedi estyn gwahoddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ymuno a bwrdd prosiect Swyddfa…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ei bod wedi estyn gwahoddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ymuno a bwrdd prosiect Swyddfa Cymru yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn er mwyn gwneud gwaith ar gwestiwn y refferendwm. Y bwrdd prosiect sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith paratoadol y mae angen ei wneud er mwyn cynnal refferendwm.

Meddai Mrs Gillan: “Mae gan y Bwrdd Prosiect rol hanfodol yn y broses o sicrhau  bod y gwaith paratoadol sy’n cael ei wneud cyn y refferendwm yn mynd rhagddo yn brydlon ac yn gywir. Drwy ychwanegu at aelodaeth y bwrdd rydym yn gwneud yn fawr o’r holl arbenigedd sydd ar gael i ni.

“Gellir defnyddio arbenigedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn rhan anhepgor o fformwleiddiad y cwestiwn ac nad yw’n rhywbeth y rhoddir ystyriaeth iddo wedyn, a dim ond cyfieithu’r cwestiwn o’r Saesneg. 

“Bydd gwybodaeth a phrofiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn fanteisiol iawn wrth i ni fentro i gyfnod hanfodol ym mhrosiect y refferendwm.”

Meddai Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws: “Pan fydd pobl yn mynd i bleidleisio, mae’n bwysig eu bod yn gallu gwneud hynny yn yr iaith y maent yn fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio. Bydd nifer o bobl yn darllen cwestiwn y refferendwm yn Gymraeg cyn rhoi eu pleidlais yn y blwch priodol, felly mae’n hollbwysig bod geiriad y cwestiwn yn gwneud synnwyr. Drwy ysgrifennu’r cwestiwn yn Gymraeg yr un pryd a’r Saesneg, rhoddir sylw arbennig i’r hyn sy’n gweithio yn y ddwy iaith, ac ni fydd risg o gwbl i ddim fynd ar goll wrth gyfieithu.

“Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais eto ar statws yr iaith Gymraeg. Yn ogystal a bod yn gam ymlaen i’w groesawu o ran yr hyn sy’n ymarferol i siaradwyr Cymraeg yn y gorsafoedd pleidleisio, mae’n dangos hefyd bod yr iaith yn rhan ganolog o’r broses lywodraethu a deddfu yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 7 June 2010