Ysgrifennydd Cymru yn canmol gwaith diflino Heddlu Dyfed Powys i chwilio am April Jones
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi canmol ymroddiad staff Heddlu Dyfed Powys wrth iddynt barhau a’u hymdrechion i ddod o hyd …

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi canmol ymroddiad staff Heddlu Dyfed Powys wrth iddynt barhau a’u hymdrechion i ddod o hyd i’r ferch ysgol sydd wedi cael ei chipio, April Jones.
Ddoe (11 Hydref) bu Mr Jones yn siarad a Jackie Roberts, Prif Gwnstabl Dyfed Powys, i ddiolch iddi hi a’i thim o swyddogion am eu hymroddiad, ac i gydnabod y proffesiynoldeb a ddangoswyd ganddynt ers i April ddiflannu o du allan i’w chartref ar 1 Hydref 2012.
Dywedodd Mr Jones: “Roedd arnaf eisiau achub ar y cyfle i ddiolch yn bersonol i bob un aelod o dim Heddlu Dyfed Powys sydd wedi dangos ymroddiad a phroffesiynoldeb diflino drwy gydol yr achos anodd hwn.”
“Mae’r digwyddiadau trychinebus hyn wedi effeithio ar y wlad i gyd ac maent wedi dod a’r gymuned Gymreig fach hon i sylw’r cyfryngau cenedlaethol. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi parhau i ddangos eu hymrwymiad diflino i’r achos, a gwerthfawrogir eu cefnogaeth i’r gymuned leol, i’r nifer fawr o wirfoddolwyr ac, yn anad neb, i deulu April.”