Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn canmol cefnogaeth Lluoedd Arfog y DU ym mrwydr Cymru’n erbyn y coronafeirws

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn cydnabod cyfraniad Lluoedd Arfog y DU wrth ymateb i COVID-19

A soldier receives health and safety training in use of the hydrolics at the rear of an ambulance.

The Army in Wales is training 60 soldiers to prepare to support the Welsh Ambulance Services NHS Trust (WAST) in the battle against COVID-19. MOD Crown Copyright.

Mae rôl personél y lluoedd arfog mewn ymateb parhaus i COVID-19 ledled Cymru wedi cael ei chanmol gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart. Yr wythnos hon, dechreuodd y Fyddin yng Nghymru hyfforddi gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ym Mhontsenni, y Canolbarth i gynorthwyo parafeddygon.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae lluoedd arfog y DU yn cefnogi gwaith hanfodol ein GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio i daclo’r coronafeirws yng Nghymru.

Mae’r fyddin yn darparu cymorth ac arbenigedd ychwanegol i Lywodraeth Cymru, ein gwasanaethau ambiwlans a’r GIG. Mae personél ein lluoedd arfog yn dangos ymrwymiad anhunanol ac yn gwneud gwaith gwych ar yr adeg hynod anodd hon. Yr wyf yn ostyngedig gan eu hymdrechion ac yn eu diolch yn dragwyddol am eu cefnogaeth.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn James Heappey:

Rydyn ni’n falch o gefnogi ein gwasanaethau brys, staff rheng flaen y GIG a chynghorau ledled Cymru yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

P’un a yw’n cefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu’n helpu i adeiladu capasiti ysbyty newydd, mae milwyr, morwyr, awyrenwyr ac awyrenwragedd o bob rhan o’r DU yn barod i helpu gyda beth bynnag sy’n ofynnol i ni yng Nghymru.

Mae cymorth y lluoedd arfog i fynd i’r afael â COVID-19 yng Nghymru yn cynnwys:

  • Mae’r fyddin yng Nghymru yn hyfforddi 60 o filwyr i baratoi i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Bydd gofyn i yrwyr ambiwlans milwrol ymateb i argyfyngau, helpu’r parafeddygon â thasgau anghlinigol a gyrru’r ambiwlansys pan fydd angen.
  • Mae personél cynllunio a chyswllt milwrol yn cael eu lleoli ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghanolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru, Caerdydd, y pedwar Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a’r saith Bwrdd Iechyd Lleol.
  • Mae Timau Asesu Milwrol wedi cefnogi datblygiad ysbytai maes gan y GIG yng Nghymru, gan gynnwys yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
  • Mae personél y lluoedd arfog sy’n dod o bob un o’r tri gwasanaeth wedi bod yn hyfforddi i yrru tanceri ocsigen yn y cyfleuster Air Products ym Mhort Talbot er mwyn cefnogi’r GIG.
  • Mae hyd at 10,000 o bersonél wedi’u gosod ar lefel parodrwydd uwch ledled y DU, felly maent yn gallu cynorthwyo â’r gwaith o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn ar ben y 10,000 a ddelir eisoes ar barodrwydd uwch.
  • Mae mesurau wedi’u cymryd i’w gwneud yn bosibl i alw milwyr wrth gefn, pe bai angen iddynt ymuno â’r ymdrech i ymateb.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 8 April 2020