Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru’n canmol ymrwymiad y gwasanaethau brys

Aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, ar ymweliad a Heddlu De Cymru ym Mae Caerdydd heddiw, i fynegi ei werthfawrogiad i’r aelodau o…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, ar ymweliad a Heddlu De Cymru ym Mae Caerdydd heddiw, i fynegi ei werthfawrogiad i’r aelodau o’r gwasanaethau brys a ymatebodd i’r digwyddiadau taro a ffoi trasig yn y ddinas ddydd Gwener (19 Hydref).

Cyfarfu Mr Jones a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Julian Kirby a’r Uwch Swyddog Ymchwilio a’r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley, a gyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol i’r swyddogion a ymatebodd mor gyflym i’r galwadau brys yn wyneb y digwyddiadau yn ardaloedd Trelai a Lecwydd o’r ddinas.

Mynegodd Mr Jones, sydd wedi bod mewn cyswllt dyddiol a’r Prif Gwnstabl Peter Vaughan, ei ddiolch personol ef ei hun a neges o ddiolch gan y Prif Weinidog David Cameron i’r gwasanaethau brys, sy’n parhau i ddarparu cefnogaeth amhrisiadwy i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau.

Dywedodd Mr Jones: “Roedd y digwyddiadau yng Nghaerdydd ddydd Gwener yn drasig - dydyn ni heb weld dim byd tebyg o’r blaen. Maen nhw wedi dychryn nid yn unig y gymuned leol, ond y wlad gyfan.”

“Rydw i eisiau diolch i bob aelod o’r gwasanaethau brys ac iechyd a oedd yn rhan o’r gwaith o gefnogi’r rhai a gafodd eu heffeithio, am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Mae’r staff yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng nghanol y ddinas yn parhau i weithio’n eithriadol galed er mwyn cefnogi’r bobl a gafodd anafiadau difrifol ddydd Gwener.”

“Fe fues i’n siarad a’r Prif Weinidog neithiwr gan roi’r newyddion diweddaraf iddo am y sefyllfa. Gofynnodd yn benodol i mi fynegi ei ddiolch personol i’r gwasanaethau brys a’i gydymdeimlad a’r dioddefwyr a’u teuluoedd a’u ffrindiau.”

“Mae ein meddyliau a’n gweddiau ni gyda theulu Karina Menzies a theuluoedd y dioddefwyr eraill a oedd yn rhan o’r digwyddiadau trasig yma.”

Cyhoeddwyd ar 21 October 2012