Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn addo cefnogi'r sector modurol yn y digwyddiad 'Driving the Future'

Yn ystod ei brif anerchiad, canmolodd Ysgrifennydd Cymru lwyddiant parhaus sector modurol y DU

Industrial Strategy logo

Industrial Strategy logo

Wrth i Lywodraeth y DU nodi blwyddyn ers lansio ei strategaeth ‘Road to Zero’, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wrth gynrychiolwyr o’r sector modurol ei fod am i’r DU fod ar flaen y gad o ran dylunio a gweithgynhyrchu cerbydau trydan.

Aston Martin, Bosch a Wunder Mobility oedd yn noddi ‘Driving the Future’ a nod y digwyddiad oedd rhoi sylw i gyd-destun y sector modurol, sy’n newid, a’i gynlluniau i fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy arloesi a gwelliannau technolegol.

Yn ystod ei brif anerchiad, canmolodd Ysgrifennydd Cymru lwyddiant parhaus sector modurol y DU yn wyneb ansicrwydd, cyn mynd yn ei flaen i ddweud mai Cymru yw’r lle perffaith i fuddsoddi yn y sector.

Wrth gloi, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth gynrychiolwyr blaenllaw y sector fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi a hwyluso arloesi i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn flaenllaw yn fyd-eang yn y sector.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’r newid unigryw yn y galw gan gwsmeriaid yn arwain at gyfle euraid i ni arwain y ffordd o ran dylunio’r genhedlaeth nesaf o gerbydau a thechnolegau. Mae gofyn i’r sector modurol arloesi, ehangu a denu buddsoddiad newydd i Gymru ac i’r DU er mwyn meithrin a datblygu’r cyfle hwn.

Bydd Llywodraeth y DU yn darparu’r adnoddau i chi wneud hyn, drwy’r Strategaeth Ddiwydiannol, gan sicrhau dyfodol y diwydiant hwn a gwarantu swyddi ar gyfer y dyfodol.

Aston Martin oedd un o’r cwmnïau a oedd yn noddi’r digwyddiad hwn. Y llynedd, cyhoeddodd y cwmni ei fod yn buddsoddi £50 miliwn yn ei gyfleuster newydd o’r radd flaenaf yn Sain Tathan, sef y ganolfan ar gyfer trydaneiddio.

Bydd buddsoddiad y cwmni’n creu 200 o swyddi ychwanegol ar y safle, a bydd y ffatri newydd yn dod â chyfanswm o 750 o swyddi tra medurs i dde Cymru. Roedd hyn yn hwb derbyniol iawn i economi Cymru ac yn dangos sgiliau anhygoel gweithlu’r wlad, a gafodd eu dewis gan Aston Martin i ddod â’r brand yn fyw.

Dywedodd Dr. Andy Palmer, Prif Weithredwr a Llywydd Aston Martin Lagonda:

Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i roi’r prif anerchiad yn y digwyddiad heddiw. Rydym wedi bod yn cyflwyno gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol ar gyfer symudedd cynaliadwy, gyda’n partneriaid yn y digwyddiad, sef Bosch a Wunder Mobility. Wrth i ni ddynesu at ddiwrnod agor ein canolfan ar gyfer trydaneiddio yn Sain Tathan, de Cymru, mae’n amserol iawn fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gallu ymuno â ni i bwysleisio rôl bwysig y llywodraeth yn galluogi’r broses o drosglwyddo i dechnolegau cynaliadwy newydd ac i atgyfnerthu’r achos dros Gymru fel lle ar gyfer busnes.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 10 July 2019