Ysgrifennydd Cymru yn Rhoi Teyrnged i’r Arglwydd Livsey
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi rhoi teyrnged i gyn- arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r arglwydd Richard Livsey…

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi rhoi teyrnged i gyn- arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r arglwydd Richard Livsey, a fu farw heddiw.
Meddai Mrs Gillan: “Gwnaeth yr Arglwydd Livsey gyfraniad amhrisiadwy at fywyd gwleidyddol Cymru, yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Nhŷ’r Arglwyddi. Roedd gan bobl ledled Cymru a thu hwnt feddwl mawr ohono.
“Roedd parch aruthrol tuag ato gan bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ond yn enwedig gan bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed y bu’n eu gwasanaethu am 11 mlynedd fel AS. Mae gwleidyddiaeth Cymru wedi colli gŵr bonheddig a hyrwyddwr brwd dros ddemocratiaeth yng nghefn gwlad. Estynnaf fy nghydymdeimlad i’r teulu.”