Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n talu teyrnged i ‘ysbryd entrepreneuraidd’ Siambr Fasnach Cymru Bangladesh

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn tynnu sylw at lwyddiannau taith fasnach Siambr Fasnach Cymru Bangladesh y llynedd mewn Cinio…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn tynnu sylw at lwyddiannau taith fasnach Siambr Fasnach Cymru Bangladesh y llynedd mewn Cinio Gala i ddathlu yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd heno (12 Gorffennaf).

Bydd Mrs Gillan yn cyflwyno’r brif araith yn y digwyddiad, a fydd hefyd yn croesawu Uchel Gomisiynydd Bangladesh, Ei Ardderchogrwydd Robert Gibson.

Cynhelir y digwyddiad i nodi ysbryd entrepreneuraidd Siambr Fasnach Cymru Bangladesh, a gefnogir gan y Llywodraeth, am ei thaith fasnach i Fangladesh yr hydref diwethaf.

Nod Siambr Fasnach Cymru Bangladesh yw ymchwilio i gyfleoedd buddsoddi ym Mangladesh yn ogystal a sefydlu llwyfan i hybu cysylltiadau masnach rhwng Cymru a Bangladesh. 

Mae taith fasnach mis Medi, a gefnogwyd gan Swyddfa Cymru, yn cael ei hystyried yn llwyddiannus iawn, gyda 17 o gyfarfodydd grŵp wedi eu cynnal mewn tair dinas dros bum diwrnod, a chyfarfod gyda Phrif Weinidog Bangladesh, Mrs Sheikh Hasina i gloi.  Bu’r cwmni o Fachynlleth, Dulas Solar, yn rhan o’r daith fasnach ac mae’n cynnal trafodaethau am archeb posib gwerth £2 filiwn o ganlyniad i hynny.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Rwy’n falch iawn o gael mynd i’r cinio hwn heno. Mae Siambr Fasnach Cymru Bangladesh wedi datblygu’n sylweddol ers i mi eu cyfarfod yn gyntaf ym mis Rhagfyr 2010, ac maen nhw’n enghraifft wych o gydweithio yn y Llywodraeth.

“Y DU yw un o’r buddsoddwyr mwyaf ym Mangladesh, yn buddsoddi oddeutu £2 filiwn mewn prosiectau. Dan y telerau hyn yn unig, mae’r cysylltiad rhwng ein dwy wlad yn werthfawr, ond mae gennyn ni lawer iawn i’w gynnig i’r naill a’r llall mewn sawl ffordd arall.

“Mae’r cinio hwn yn tynnu sylw at bawb sy’n rhan o Siambr Fasnach Cymru Bangladesh ac yn talu teyrnged iddyn nhw. Mae potensial enfawr i sefydlu cysylltiadau masnach dramor gyda busnesau Cymru ac y mae Siambr Fasnach Cymru Bangladesh yn manteisio i’r eithaf ar y rhain.

“Rwy’n falch bod cymorth Swyddfa Cymru wedi cynorthwyo Siambr Fasnach Cymru Bangladesh gyda’i thaith fasnach a gobeithio y gallwn ni weithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhagor o fusnes rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd Cadeirydd Siambr Fasnach Cymru Bangladesh, Mr Hussain: “Yn yr hinsawdd heriol hon, rydyn ni’n credu bod cyfrifoldeb ar bob busnes yng Nghymru i chwarae eu rhan i gael yr economi yn ol ar y trywydd iawn. Aeth Siambr Fasnach Cymru Bangladesh a’i haelodau ar y daith fasnach hon mewn ymdrech i gefnogi economi Cymru a Phrydain. Mae’r llwyddiannau a ddaeth i ran y cynrychiolwyr yn dangos y gall busnesau yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd gael canlyniadau gwych. Diolch i bawb a fu ynghlwm, a diolch hefyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Bangladesh, Siambr Fasnach De Cymru, Menter Cymru, UKTI, Uchel Gomisiynydd Prydain, Uchel Gomisiynydd Bangladesh, sydd oll wedi ein hysbrydoli ni i symud ymlaen.

“Ers ein cyfarfod cyntaf gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, mae wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i’n cynorthwyo ni gyda’n hymdrechion. Mae Siambr Fasnach Cymru Bangladesh a’r gymuned fusnes yng Nghymru’n ddiolchgar iawn am hynny. Mae hyn yn profi beth yn union y gellir ei gyflawni gydag ymdrechion Llywodraethau ar y cyd. Ein nod yw trefnu Taith Fasnach o Fangladesh, yn dilyn ein cyfarfod gyda Phrif Weinidog Bangladesh, pan ddywedodd y byddai’n fodlon trefnu dirprwyaeth fasnach lefel uchel petai Llywodraeth Cymru’n eu gwahodd i hyrwyddo gwell cysylltiadau masnach. Dim ond megis dechrau mae ein cenhadaeth, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r hyn sy’n ymddangos a fydd yn berthynas adeiladol.”

Cyhoeddwyd ar 12 July 2012