Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Sioe Awyr Paris yn llwyfan i sector hedfan Cymru”

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cwrdd ag aelodau allweddol y diwydiant hedfan byd-eang ac yn hyrwyddo cryfder a gallu arloesol Cymru yn Sioe Awyr Ryngwladol Paris heddiw (20 Mehefin 2013).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Image to be attributed to UggBoyUgg Girl on Flickr.

To Welsh Secretary attends the Paris International Air Show.

Mae Le Bourget – a gynhelir am y 50fed flwyddyn eleni – yn un o sioeau awyr mwyaf y byd ac mae’n llwyfan ar gyfer technoleg a pheirianneg arloesol a blaengar.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â chwmnïau sydd â chysylltiadau cryf â Chymru, gan gynnwys rhiant-gwmni Airbus, Brychdyn, sef EADS a BAE Systems.

Daw’r ymweliadau hyn yn ystod wythnos y mae’r diwydiant hedfan ym Mhrydain wedi cael llawer o sylw. Mae Airbus eisoes wedi cadarnhau archebion gyda’r grŵp ariannu awyrennau, Doric, sydd am brynu 20 awyren A380, wedi llofnodi cytundeb am 50 awyren A320 ychwanegol gyda’r grŵp prydlesu awyrennau o UDA, ILFC, ac wedi cwblhau archeb gan Grŵp Lufthansa am 100 o awyrennau o’r grŵp A320. Mae’r cwmni hedfan rhad, Easyjet, wedi llofnodi cytundeb i brynu 135 awyren Airbus newydd, ac mae Air France-KLM wedi cwblhau contract cadarn am 25 A350-900.

Bydd yr archebion yn cryfhau llyfr archebion prysur y ffatri adenydd ym Mrychdyn ac yn sicrhau swyddi’r 6,000 o weithwyr sydd ar y llyfrau.

Tra bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y sioe awyr bydd yn ymweld â stondin Awyrofod Cymru, Raytheon UK, Babcock, Thales, Hawker Beechcraft a nifer o fusnesau bach a chanolig eraill sydd wedi cael cyfle unigryw i ymddangos gerbron prynwyr, peirianwyr a chwsmeriaid awyrofod y byd.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Diwydiant awyrofod y DU yw un o’n llwyddiannau mwyaf, ac rydyn ni’n gwneud popeth sy’n bosib i wneud yn siŵr ein bod yn aros ar y brig yn Ewrop, gan frwydro am bob contract a phob cyfle.

Mae’n rhaid i’r Llywodraeth a’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i sicrhau’r llwyddiant hwn. Dyna pam ein bod ni wedi lansio Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod - partneriaeth strategol hirdymor sy’n mynd i’r afael â’r hyn sy’n rhwystro twf, yn hybu cyfleoedd allforio ac yn cynyddu gwerth uchel swyddi awyrofod ledled y wlad.

Rydyn ni am wneud yn siŵr mai Prydain yw’r lle gorau yn y byd ar gyfer peirianneg awyrofod, ac mae Cymru’n chwarae rôl gref ar gyfer cyflawni’r nod hwn.

Yn gynharach yr wythnos hon, aeth y Gweinidog Busnes ac Ynni, Michael Fallon, i’r sioe awyr i gyhoeddi bod busnesau awyrofod ar fin elwa o gyllid hyd at £90 miliwn i ddatblygu technolegau newydd a datblygedig

Mae cronfa o £25 miliwn ar gael i fusnesau bach a chanolig sy’n bwriadu cymryd rhan mewn gwaith ymchwil cydweithredol a phrosiectau technoleg sy’n gyson â Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod.

Dywedodd y Gweinidog Busnes ac Ynni, Michael Fallon:

Mae gennyn ni sector awyrofod arloesol a’r gallu i ragori mewn meysydd fel ymchwil a datblygu. Bydd yr ymrwymiad hwn i arloesi drwy Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod yn hanfodol ar gyfer twf hirdymor.

Os ydyn ni am fod ar flaen y gad, rhaid i ni greu’r amodau iawn nawr sy’n annog busnesau i fuddsoddi yn y DU a datblygu cynnyrch newydd a chyffrous. Bydd y cyllid newydd hwn yn helpu i wneud hynny a bydd hefyd yn sicrhau bod nifer o brosiectau o ansawdd yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i gael eu traed oddi tanynt.

Yn gynharach yr wythnos hon, ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru â Chanolfan Cynnal a Chadw British Airways ym Mro Morgannwg. Mae’r cyfleuster yn darparu gwasanaeth penodol ac yn gyfleuster cynnal a chadw ar gyfer fflyd British Airways o awyrennau Boeing 747, 777 a’r awyren teithiau hir, y 767. Mae’n gyfrifol am holl waith cynnal a chadw ac atgyweirio’r fflyd gyfan fwy neu lai.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204

Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod Mae Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod ar gael yn Lifting Off – Implementing the Strategic Vision for UK Aerospace, a lansiwyd ar 18 Mawrth gan Bartneriaeth Twf y Sector Awyrofod.

Cyhoeddwyd ar 20 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 June 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.