Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Bydd Paralympiaid Cymru yn ‘Ysbrydoli Cenhedlaeth’

Wrth i Gaerdydd gynnal dathliadau Gŵyl y Fflam Paralympaidd heddiw (27 Awst 2012), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn datgan ei…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth i Gaerdydd gynnal dathliadau Gŵyl y Fflam Paralympaidd heddiw (27 Awst 2012), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn datgan ei chefnogaeth i 38 (sy’n nifer mwy nag erioed) o athletwyr Paralympaidd Cymru Prydain Fawr sydd ar fin cystadlu yn y Gemau yn Llundain.

Dros naw diwrnod o gystadlu brwd, bydd athletwyr sy’n cynnwys pencampwr gwaywffon F57 y byd, Nathan Stephens, Liz Johnson a enillodd fedal aur yn nofio yng ngemau Olympaidd Beijing, a’r llongwr Stephen Thomas, yn ceisio cynnal llwyddiant Cymru yn y Gemau Paralympaidd.

Yng Ngemau Paralympaidd Beijing, allan o gyfanswm o 1,431 o fedalau, byddai’r 14 medal a enillodd athletwyr o Gymru (deg aur, tair arian ac un efydd) wedi rhoi Cymru ar frig y tabl medalau ar sail poblogaeth.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Rydyn ni i gyd yn hynod falch o’r 38 o athletwyr o Gymru sydd ar fin cymryd rhan yn y gemau hanesyddol hyn gartref. Mae gennyn ni hanes hir a nodedig o ddatblygu athletwyr Paralympaidd o safon fyd-eang, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fydd criw Llundain 2012 yn cynnal y traddodiad hynny o ennill medalau fel y gwnaeth aelodau Tim Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd yn gynharach y mis yma.

“Rwy’n anfon fy nymuniadau gorau yn benodol i’r 19 o Baralympiaid newydd o Gymru sy’n rhan o’r tim. Mae pob un ohonyn nhw wedi rhoi amser ar ymrwymiad i gyrraedd y brig yn eu chwaraeon unigol, ac maen nhw wedi cael eu gwobrwyo  gyda chyfle unigryw i gymryd rhan yn y sioe orau yn y byd a hynny gartref.

“Hefyd, mae’r gwobrau ar gyfer yr athletwyr - y medalau aur, arian ac efydd - wedi cael eu gwneud yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Bydd gan bob athletwr a fydd yn cystadlu nodyn yn dweud cynhyrchwyd yng Nghymru ar eu festiau, diolch i First 4 Numbers, Tondu.

“Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’n hathletwyr yn eu hymdrechion i ennill medalau, a does gen i ddim amheuaeth na fyddan nhw hefyd yn ysbrydoli cenhedlaeth arall i gymryd rhan mewn chwaraeon.”

Bydd crochan y ddefod yn cael ei gynnau y tu allan i Neuadd y Ddinas Caerdydd i ddathlu Taith Fflam y Gemau Paralympaidd a Gemau Paralympaidd 2012. Cafodd y Fflam o Gymru a fydd yn tanio’r crochan ei chreu ar ben yr Wyddfa gan Sgowtiaid a drawodd ffon fferoceriwm yn erbyn arwyneb dur garw i greu’r gwreichion ar gyfer y Fflam.

Y para-seiclwr o Borthcawl, Simon Richardson MBE, fydd yn cynnau’r Fflam. Enillodd ddwy fedal Aur ac un Arian fel rhan o’r tim para-seiclo yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008.

Cyhoeddwyd ar 27 August 2012