Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn agor estyniad Aml-Filiwn yng Ngharchar y Parc

Heddiw [dydd Iau 4 Tachwedd] bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Gweinidog y Carchardai, Crispin Blunt, yn agor yn swyddogol estyniad…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [dydd Iau 4 Tachwedd] bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a Gweinidog y Carchardai, Crispin Blunt, yn agor yn swyddogol estyniad aml-filiwn yng Ngharchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr estyniad, a fydd yn darparu hyd at 320 o lefydd carchar ychwanegol gyda’r posibilrwydd o gynyddu i 470 erbyn 2011, yn ei gwneud hi’n bosib i fwy o garcharorion o Gymru gyflawni eu dedfryd yng Nghymru.  Mae’r estyniad hefyd wedi ychwanegu ystod o gyfleusterau newydd at y carchar, er mwyn gwasanaethu’r nifer cynyddol o garcharorion, gan gynnwys canolfan feddygol newydd, canolfan hyfforddi staff newydd, cyfleusterau arlwyo a maes parcio ehangach ar gyfer ymwelwyr a staff.

Wrth annerch yr agoriad swyddogol, dywedodd Mrs Gillan:  “Mae’r estyniad hwn yn gam sylweddol tuag at fynd i’r afael a’r diffyg darpariaeth garcharu yn Ne Cymru, gan wneud y Parc yn un o garchardai mwyaf y Deyrnas Unedig.”  Rhaid i ni gael ystad carcharu modern, gyda chyfleusterau priodol, ac mae’r estyniad hwn yn darparu gwell cyfleusterau yng ngharchar y Parc ar gyfer ei Bobl Ifanc, Troseddwyr Ifanc a Charcharorion Aeddfed.

“Mae’n dra phwysig bod troseddwyr o Gymru, bob tro y mae hynny’n bosib, yn cyflawni eu dedfrydau yng Nghymru, a bydd yr estyniad hwn yn gwneud hynny’n bosib.   Mae cadw cysylltiad a’u teuluoedd, a chynnal dolen gyda’u cymunedau, yn chwarae rol bwysig o ran adsefydlu effeithiol.  Gall Carchar y Parc ymhyfrydu yn y prosiectau arloesol a ddatblygwyd ganddo dros y blynyddoedd i sicrhau perthynas well, a mwy o ymddiriedaeth, gyda theuluoedd troseddwyr a’r gymuned leol.”

Dyma oedd gan y Gweinidog Carchardai, Crispin Blunt, i’w ddweud:  “Bydd yr estyniad hynod hwn i garchar y Parc yn helpu i sbarduno’r economi lleol drwy greu swyddi ychwanegol, a bydd yn caniatau i droseddwyr o Gymru aros yn agosach at eu teuluoedd, gan leihau’r perygl eu bod yn aildroseddu.

“Yr ydym eisoes yn buddsoddi rhagor na £100 miliwn y flwyddyn ar wasanaethau rheoli troseddwyr llinell-flaen yng Nghymru, gan ddefnyddio cymysgedd o ddarparwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gyda’r nod o newid ymddygiad troseddwyr yn y ddalfa.

“Mae llefydd newydd, fel y rhai yma yn y Parc, yn golygu y gallwn gynnig carchardai dechau ac effeithiol, sy’n cynnig gwerth da am arian i’r trethdalwr.”

Cyhoeddwyd ar 4 November 2010