Gemau Olympaidd yn darparu llwyfan perffaith i fusnesau yng Nghymru
Hyrwyddo Cymru fel cyrchfan nodedig ar gyfer creu swyddi a buddsoddi fydd y nod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, heno pan fydd yn…
Hyrwyddo Cymru fel cyrchfan nodedig ar gyfer creu swyddi a buddsoddi fydd y nod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, heno pan fydd yn croesawu arweinwyr busnes rhyngwladol yn y Parc Olympaidd yn Llundain.
Bydd aelodau o Gyngor Busnes India y DU, Masnach Allanol Japan a’r Siambr Fasnach Russo-Brydeinig yn ymuno a busnesau yng Nghymru sy’n cynnwys General Dynamics a Tata Steel yn yr East Albion Club heno (30 Gorffennaf). Trefnwyd y digwyddiad er mwyn hybu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru ac i ddathlu llwyddiannau’r busnesau sydd eisoes yn gwneud eu marc ar dir Cymru.
Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd a chyfres o gynadleddau busnes byd-eang yn Lancaster House yn Llundain a gynhelir drwy gydol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, a byddant yn ganolbwynt i strategaeth treftadaeth Olympaidd UKTI. Nod y cynadleddau fydd datblygu cyfleoedd masnach ar gyfer cwmniau’r DU yn rhyngwladol, hyrwyddo buddsoddi o’r tu allan yn y DU, ac arddangos rhagoriaeth y DU yn fyd-eang.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Mrs Gillan:
“Yr haf hwn, bydd y byd yn gwylio’r athletwyr gorau’n perfformio yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Gyda Chymru’n croesawu 16 o wersylloedd hyfforddi ar gyfer timau Olympaidd, a’r gystadleuaeth bel droed, bydd eu llygaid arnom ninnau hefyd.
“Rydw i wedi ymrwymo i gadarnhau bod gan Gymru gyfleoedd busnes cyfoethog ac amrywiol i’w cynnig, ac i dynnu sylw at lwyddiant y buddsoddwyr presennol sydd a hanes llwyddiannus a maith o wneud busnes yng Nghymru.
“Rydw i’n gobeithio y bydd y rhai sy’n mynychu’r digwyddiad hwn heno’n gweld sut mae buddsoddiad seilwaith diweddar mewn band llydan hynod gyflym, cyfathrebu symudol, a’r rhaglen gwerth £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio’r rhwydwaith rheilffordd yn gwneud Cymru’n gyrchfan atyniadol, cystadleuol a hwylus yn ddaearyddol ar gyfer busnesau byd-eang.
“Hefyd mae Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen a pholisi Parthau Menter Llywodraeth y DU drwy gyhoeddi saith lleoliad ledled Cymru a fydd yn darparu rhwydwaith o gyfleoedd twf sy’n cynnig darpariaeth gref, gystadleuol yn rhyngwladol, gan dargedu’r sectorau twf.
“Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod cwmniau Cymru’n elwa o’r cyfleoedd a geir yn sgil Gemau Olympaidd Llundain. Mae’r digwyddiad heno’n gyfle arbennig i arddangos popeth sy’n wych am ein gwlad ni er mwyn helpu i ddenu manteision economaidd hirdymor i’r economi.”