Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Cadwyn cyflenwi niwclear i ddod â chyfleoedd newydd i fusnesau Cymru

Bydd cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer y gadwyn cyflenwi niwclear yn dod a thoreth o gyfleoedd i fusnesau Cymru, meddai David Jones…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer y gadwyn cyflenwi niwclear yn dod a thoreth o gyfleoedd i fusnesau Cymru, meddai David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw (6 Rhagfyr 2012).

Heddiw, gwnaeth yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) lansio Cynllun Gweithredu Cadwyn Cyflenwi Niwclear, sy’n cynnwys camau gweithredu wedi’u llunio i sicrhau bod cadwyn cyflenwi’r DU yn gystadleuol ac yn barod i gyflawni ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan y £60 biliwn o fuddsoddiad arfaethedig diweddar yn y DU.

Ym mis Hydref eleni, cyhoeddodd Hitachi, cwmni technoleg o Japan, ei fod yn ymrwymo i fuddsoddi mewn niwclear yn y DU, gan gynnwys buddsoddiad o £20 biliwn mewn niwclear newydd yn Wylfa B ar Ynys Mon ac yn Oldbury yn Swydd Gaerloyw.

Disgwylir i’r buddsoddiad ddod a rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi adeiladu i Ogledd Cymru, yn ogystal a hyd at 1,000 o gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel, gyda chyflogau da, pan fydd y safle’n weithredol. Mae Hitachi hefyd wedi awgrymu y disgwylir i oddeutu 60% o werth y safle yn Wylfa gael ei gaffael o fewn y DU.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Bydd y diwydiant niwclear yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cyflenwad ynni’r wlad, ac mae’n un o brif ysgogwyr twf economaidd.

“Mae cyhoeddi’r cynllun gweithredu hwn heddiw yn dangos bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau gweithlu medrus sy’n gallu cyflawni’r rhaglen niwclear newydd ar amser, o fewn y gyllideb.

“Mae’r rhaglen hefyd yn cynrychioli cyfle arwyddocaol i greu swyddi, a chyfle i fusnesau Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cadwyn cyflenwi a ddaw yn sgil Wylfa B. Bydd y profiad y byddant yn ei ennill yn rhoi iddynt y cymwysterau ychwanegol y mae arnynt eu hangen i’w helpu i gael mynediad at farchnadoedd eraill, ac rwy’n eu hannog i fanteisio i’r eithaf.”

Mae Cynllun Gweithredu Cadwyn Cyflenwi y Llywodraeth - a ddatblygwyd ar y cyd a’r diwydiant niwclear - yn cynnwys y camau gweithredu allweddol a ganlyn.

• Sefydlu Fforymau Cyflawni Strategol ar gyfer safleoedd adeiladau newydd, i sicrhau yr ymgysylltir a’r cymunedau, a sicrhau bod modd iddynt fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd economaidd sydd ar gael;

• Cyngor gan y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Niwclear i helpu busnesau bach a chanolig i wneud bid am gontractau mawr yn y gadwyn cyflenwi niwclear; a

• Sefydlu Cyngor y Diwydiant Niwclear - a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn chwarter cyntaf 2013.

Nodyn i Olygyddion:

  1. I gael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad heddiw, cysylltwch a swyddfa’r wasg DECC ar 0300 068 5223.

  2. Mae Cynllun Gweithredu Cadwyn Cyflenwi Niwclear y Llywodraeth ar gael yn: http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/meeting_energy/nuclear/new/supply_skills/supply_skills.aspx

  3. Heddiw, bu i’r Llywodraeth hefyd gyhoeddi penodiad diweddar chwe aelod i’r Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol. Mae’r Pwyllgor yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu proses graffu annibynnol a darparu cyngor annibynnol i Lywodraeth y DU a Gweinidogion Gweinyddiaethau Datganoledig ar reoli gwastraff ymbelydrol yn y tymor hir, gan gynnwys storio a gwaredu.

Cyhoeddwyd ar 6 December 2012