Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Anrhydeddau yn cydnabod y rhai sydd wedi cyfoethogi bywydau’r rhai o’u cwmpas"

David Jones yn estyn llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Rt. Hon David Jones MP

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n hynod falch o estyn fy llongyfarchiadau gwresocaf i bawb sydd wedi cael eu cydnabod yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae’r anrhydeddau hyn yn cydnabod y rhai sydd wedi rhoi o’u gorau ac wedi cyfoethogi bywydau’r rhai o’u cwmpas, heb feddwl dim am dâl neu wobr.

Yng Nghymru, mae gennym ysbryd cymunedol cyfoethog a bywiog. O’r herwydd, rwy’n arbennig o falch fod llawer o’r rhai yr ydym yn clywed amdanynt ac yn darllen amdanynt heddiw wedi cael eu cydnabod o ganlyniad i’w gwaith gwirfoddol neu gymunedol. Maent yn gwir gynrychioli’r Gymdeithas Fawr ar waith.

Gall pob un ohonom ymfalchïo yng nghyflawniadau niferus ac amrywiol yr enwebeion llwyddiannus, yr ydyn ni’n dathlu eu cyflawniadau heddiw. Llongyfarchiadau i chi i gyd.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2013