Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cwrdd ag enillwyr y gystadleuaeth cardiau Nadolig

Mae dathliadau’r Nadolig wedi dechrau’n gynnar i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain wrth i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gwrdd …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae dathliadau’r Nadolig wedi dechrau’n gynnar i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain wrth i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gwrdd ag enillwyr cystadleuaeth cardiau Nadolig Swyddfa Cymru heddiw i ddiolch iddynt am eu cynlluniau buddugol.

Yn ystod ymweliad ag Ysgol Gymraeg Llundain, lansiodd Mrs Gillan gystadleuaeth i’r disgyblion gynllunio Cerdyn Nadolig Gweinidogion Swyddfa Cymru ac e-gerdyn i’r staff.

Llun o Sion Corn a Rwdolff a beintiwyd gan Esyllt Richards, saith oed, ddewiswyd ar gyfer cerdyn y Gweinidogion, a llun o goeden Nadolig a baner Cymru ar ei phen gan Saffron Bowen, pump oed, oedd y cynllun buddugol ar gyfer e-gerdyn staff Swyddfa Cymru. 

Gyda’u rhieni a’u hathrawes Hannah Evans, cafodd Esyllt a Saffron fynd ar daith o amgylch Rhif 10, Stryd Downing, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Cyn hynny, buont yn ymweld a Thai’r Senedd a Thŷ Gwydyr.

Dywedodd Mrs Gillan: “Roedd yn bleser cael croesawu Esyllt a Saffron heddiw i ddiolch iddynt yn bersonol am eu cynlluniau gwych a gaiff eu hanfon i bedwar ban byd. Cefais groeso cynnes gan yr Ysgol yn ystod fy ymweliad fis Medi, ac felly rwy’n falch iawn o gael cynnig croeso’r un mor gynnes iddynt hwythau.  

“Mae’r merched wedi rhoi eu holl galon ac enaid yn y lluniau hyn, a dylent ymfalchio yn y ffaith y bydd eu doniau creadigol yn rhannu rhywfaint o hwyl yr ŵyl a’r rheini a fydd yn derbyn y cardiau. Gobeithio eu bod wedi mwynhau’r diwrnod gyda ni, a dymunaf Nadolig Llawen iawn iddynt.”

Cyhoeddwyd ar 13 December 2010