Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cyfarfod â Gwasanaethau Prawf Cymru

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyfarfod a’r Gymdeithas Prawf ac Ymddiriedolaeth Prawf Cymru er mwyn trafod sut dylid gweithredu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyfarfod a’r Gymdeithas Prawf ac Ymddiriedolaeth Prawf Cymru er mwyn trafod sut dylid gweithredu newidiadau i’r modd y caiff troseddwyr eu hadsefydlu a’u dedfrydu yng Nghymru.

Ym mis Mehefin, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cyfiawnder gyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwell fframwaith dedfrydu. Mae hyn yn cynnwys lleihau aildroseddu drwy gyfuniad o brosiectau talu yn ol canlyniadau, cynlluniau addysgol a chynlluniau ailsefydlu oherwydd cyffuriau ac alcohol.

Dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n gwbl ymroddedig i weithio gydag Ymddiriedolaeth Prawf Cymru a’r Gymdeithas Brawf er mwyn helpu i sefydlu gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer dedfrydu ac adsefydlu troseddwyr yn well yng Nghymru.

“Ar yr un pryd, mae’n hollbwysig ein bod yn cydnabod unrhyw ddulliau eraill a ddefnyddir yng Nghymru. Dyma pam ei bod yn bwysig i ni weithio’n agos gyda gwasanaethau a mudiadau lleol, a Llywodraeth Cymru, er mwyn penderfynu ar y ffordd orau i’n gwasanaeth cyfiawnder troseddol symud ymlaen.”

Nodiadau:

  1. Ar 21 Mehefin, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder gyhoeddi cynlluniau i leihau aildroseddu, creu gwell fframwaith dedfrydu a diwygio’r system cymorth cyfreithiol.  

  2. Cyflwynwyd y Bil Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr gerbron y Senedd ar 21 Mehefin 2010. Ar hyn o bryd, mae’r Bil ar Gam Pwyllgor y Tŷ Cyffredin (Tŷ Cyntaf).

  3. Roedd Papur Gwyrdd  ‘Torri’r Cylch’ yn amlinellu cynlluniau i dreialu chwe chynllun adsefydlu newydd yn seiliedig ar ‘dalu yn ol canlyniadau’. Bydd darparwyr yn cael eu talu i leihau aildroseddu. Bydd y rhaglenni’n cael eu cyllido yn y tymor hir gan yr arian y disgwylir i’r dull newydd hwn ei arbed i drethdalwyr. Disgwylir y bydd darparwyr annibynnol, gyda buddsoddiad moesegol y tu cefn iddynt, yn cefnogi’r camau dechreuol.

Cyhoeddwyd ar 28 July 2011