Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn cwrdd ag arweinwyr pleidiau ynghylch datganoli yng Nghymru

Y cyfarfod cyntaf i drafod cytundeb trawsbleidiol ar gyflwyno setliad datganoli yn cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Photograph taken at meeting

Heddiw (13 Hydref 2014), cyfarfu Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS ag arweinwyr San Steffan o’r tair prif blaid wleidyddol yng Nghymru – Mark Williams AS (Democratiaid Rhyddfrydol), y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd AS (Plaid Cymru) ac Owen Smith AS (Llafur) – i drafod sut gellid rhoi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu er mwyn cyflawni’r gorau i bobl Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS:

Ar ôl y refferendwm, mae materion cyfansoddiadol bellach wrth galon dadleuon gwleidyddol yn y DU ac mae Cymru’n rhan bwysig o hynny.

Mae angen i bobl Cymru fod yn hyderus bod gwleidyddion yn gwireddu eu haddewidion, yn hytrach na dim ond dadlau ymhlith ei gilydd.

Mae pobl Cymru am weld llai o wleidyddiaeth plaid wrth drafod datganoli. Maen nhw am i ni fwrw ymlaen â phethau a setlo rhai o’r materion cyfansoddiadol er mwyn i ni symud ymlaen i roi sylw i’r materion go iawn sy’n bwysig iddyn nhw: yr economi, y gwasanaeth iechyd a pherfformiad ein system addysg. Dyma’r materion sydd wir yn bwysig ar stepen y drws.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn Nhŷ Gwydyr, Whitehall, Llundain.

Cyhoeddwyd ar 13 October 2014