Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cyfarfod Cadeirydd ITV i drafod dyfodol newyddion ITV yng Nghymru

Heddiw (Dydd Llun, 5 Gorffennaf), cyfarfu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ag Archie Norman, Cadeirydd ITV, yn stiwdio ITV Cymru yng…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (Dydd Llun, 5 Gorffennaf), cyfarfu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ag Archie Norman, Cadeirydd ITV, yn stiwdio ITV Cymru yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd, i drafod dyfodol darpariaeth newyddion o safon yng Nghymru.

Aeth Mrs Gillan a Mr Norman o amgylch yr ystafell newyddion a’r swyddfeydd yng Nghroes Cwrlwys, gan gyfarfod a’r newyddiadurwyr, y rheini sy’n gwneud y rhaglenni a’r staff technegol sy’n darparu rhaglenni a newyddion rhanbarthol ar gyfer ITV Cymru ac S4C. Cawsant hefyd gyfle i gyfarfod a Mike Blair, Cyfarwyddwr ITV Cymru a Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni.

Dywedodd Mrs Gillan ei bod yn hanfodol gweld rhaglenni newyddion lleol diddorol a chystadleuol yn cael eu darparu yng Nghymru. Dywedodd: “Wrth drafod a Mr Norman, pwysleisiais pa mor bwysig yw sicrhau dewis o raglenni newyddion yng Nghymru.

“Yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth bod cynlluniau peilot newyddion y Consortia Newyddion a Gyllidir yn Annibynnol (IFNC) yn ddefnydd amhriodol o arian cyhoeddus prin, pwysleisiais unwaith eto rol bwysig ITV Cymru, sy’n  cynhyrchu rhaglenni newyddion o safon ar gyfer Cymru ac am Gymru, a’m gobaith y byddai hyn yn cael ei sicrhau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Ar ol cyfarfod y newyddiadurwyr a’r staff cynhyrchu yn ITV Cymru, cafodd eu proffesiynoldeb gryn argraff arnaf, ac roeddwn yn falch o weld eu bod yn benderfynol o barhau i gynhyrchu rhaglenni o safon ar gyfer Cymru. Erbyn hyn, rwy’n gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen a fydd yn diogelu dyfodol newyddion ITV Cymru, gan weithio gyda’m cyd-aelodau yn y Cabinet i sicrhau hyn.”

Dywedodd Mr Norman: “Rydym yn frwdfrydig iawn dros gynhyrchu newyddion cenedlaethol gwych yng Nghymru. Yn hanesyddol, mae ITV wedi bod yn rhan allweddol o newyddion a materion cyfoes yng Nghymru. Mae gennym dim talentog yng Nghymru ac rydym am weld llwyddiant. Ond mae angen i’r Llywodraeth ystwytho’r sector darlledu er mwyn i ni gael yr adnoddau i fuddsoddi. Gwn fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn deall hyn a gobeithiaf y bydd yn mynd a’r neges honno i Whitehall.”

Cyhoeddwyd ar 5 July 2010