Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Cymru yn cyfarfod â phenaethiaid ynni i drafod y potensial ar gyfer economi werdd yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyfarfod a gweithredwyr RWE npower i drafod prosiectau buddsoddi ar gyfer y dyfodol - prosiectau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyfarfod a gweithredwyr RWE npower i drafod prosiectau buddsoddi ar gyfer y dyfodol - prosiectau a fydd yn rhoi hwb i economi werdd Cymru ac yn defnyddio dulliau newydd sy’n isel mewn CO2 i gynhyrchu trydan er mwyn cyfrannu’n sylweddol at dargedau lleihau carbon Llywodraeth y DU.

Yn dilyn y cyfarfod, meddai Mrs Gillan: “Mae’n ardderchog gweld yr hyn y mae RWE npower yn ei wneud dros swyddi ac economi Cymru, ond hefyd o ran sicrhau ein bod yn meddu ar y gallu priodol i gynhyrchu ynni glan, ac yn bodloni’r heriau anodd a wynebwn, sef y galw cynyddol am ynni a’n rhwymedigaethau o safbwynt newid yn yr hinsawdd.”

Mae disgwyl y bydd y gwaith adeiladu sy’n gysylltiedig a phrosiect ynni adnewyddadwy RWE npower yn dechrau’r flwyddyn nesaf, gyda’r bwriad o greu un o ffermydd gwynt ar y mor mwyaf y byd ar arfordir Gogledd Cymru. Bydd fferm wynt Gwynt y Mor, a fydd yn werth £2 biliwn, yn cynnwys 160 o dyrbinau gwynt, a’r rheini’n cynhyrchu 576 megawat (MW), oddeutu 11 milltir oddi ar yr arfordir ger Llandudno a Bae Colwyn. Bydd yn gymydog agos i ffermydd gwynt North Hoyle (60MW) a Gwastadeddau’r Rhyl (90MW), sydd eisoes ar waith.

Mae Horizon Nuclear Power, sef menter ar y cyd rhwng RWE npower ac E.ON UK yn bwriadu comisiynu ei adweithydd cyntaf mor fuan ag 2020, a hynny yn Wylfa ar Ynys Mon, os bydd y farchnad yn caniatau. Y gobaith yw y bydd gan y datblygiad arfaethedig, sy’n werth biliynau o bunnoedd, gapasiti o hyd at 3,300 MW, ac yn cynnig oddeutu 800 o swyddi parhaol ac oddeutu 5,000 yn ystod y gwaith adeiladu.  

Mae prosiectau eraill RWE npower yng Nghymru yn cynnwys yr orsaf bŵer gwerth £1 biliwn ym Mhenfro - gorsaf bŵer nwy fwyaf a mwyaf effeithlon y DU - a fydd yn creu hyd at 90 o swyddi parhaol ar y safle a hyd at 2,000 o swyddi adeiladu, a dros £235m o fuddsoddiad parhaus yng ngorsaf bŵer Aberddawan ar gyfer technoleg lleihau allyriadau, megis Dadswlffwreiddio Nwy Ffliw a chreu prosiect peilot ar gyfer cipio carbon. Mae pob un o’r rhain yn dod a swyddi i Gymru ac yn rhoi hwb economaidd i’r wlad.

Meddai Mrs Gillan: “Mae gan y prosiectau ynni cyffrous hyn botensial aruthrol o ran creu swyddi gwyrdd. Ceir cyfle yma i greu miloedd o swyddi tymor byr a pharhaol, gan roi hwb i economi Cymru a’r DU ac i economiau lleol. Gan gofio bod Wylfa ar Ynys Mon wedi dioddef yn enbyd yn sgil y dirwasgiad economaidd, a’r ffaith bod gwaith mwyndoddi alwminiwm Alwminiwm Mon wedi cau o ganlyniad, mae hyn yn bendant yn rhywbeth i’w groesawu.

“Gwn fod RWE npower o ddifrif ynghylch ei gyfrifoldebau, o ran ymgysylltu’n barhaus a’r cyhoedd yn enwedig. Bydd fy nghyd-Weinidogion a minnau’n gweithio gydag RWE npower a datblygwyr ynni eraill i sicrhau bod gennym system ynni sy’n briodol ar gyfer ein hanghenion ynni.”

Ychwanegodd: “Rwy’n benderfynol o gyflwyno’r ddadl gryfaf bosibl yn y llywodraeth o blaid cael gorsaf niwclear newydd yn Wylfa, ac rwyf wedi gwahodd yr Ysgrifennydd Ynni i ddod gyda mi i Ynys Mon ac i ymweld a’r ffermydd gwynt, megis Gwynt yn Mor a Gwastadeddau’r Rhyl.”

Cyhoeddwyd ar 11 June 2010