Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cwrdd â chyflogwyr a gweithwyr yng Ngogledd Cymru

Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld a Gogledd Cymru heddiw lle cafodd gyfle i gwrdd ag un o gyflogwyr mwyaf Cymru, Airbus, a busnes yn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld a Gogledd Cymru heddiw lle cafodd gyfle i gwrdd ag un o gyflogwyr mwyaf Cymru, Airbus, a busnes yn sir y Fflint, Cats and Pipes Ltd, cyn annerch arweinwyr busnes yng Nghinio Blynyddol CBI Gogledd Cymru.

Bu Mrs Gillan yn ymweld a safle Airbus ym Mrychdyn lle cafodd gwrdd a phrentisiaid sy’n dysgu sgiliau allweddol yn eu gwaith sy’n eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Cafodd Mrs Gillan hefyd gyfle i gwrdd a rheolwyr Airbus a chlywed sut mae’r cwmni yn buddsoddi yn drwm i ddatblygu sgiliau pobl ifanc drwy leoliadau profiad gwaith a’u rhaglen prentisiaeth.

Yn dilyn ei hymweliad, dywedodd Mrs Gillan:  “Mae Airbus yn parhau i feithrin technolegau arloesol a blaengar yng Ngogledd Cymru i wneud adenydd rhai o’r awyrennau diweddaraf yn y byd.   Mae’r cwmni yn gwneud cyfraniad hollbwysig i economi Cymru a’r DU a chafodd hyn ei gadarnhau’n gynharach eleni pan gawsant yr archeb fwyaf yn y byd am awyrennau masnachol, sydd werth oddeutu £10 biliwn.

“Mae ei lwyddiant yn dibynnu ar arbenigedd ei weithlu a’i ymrwymiad i wella sgiliau ei staff ymhellach.  Roedd hi’n braf iawn heddiw cael gweld a’m llygaid fy hun sut mae Airbus yn datblygu ei weithlu ar gyfer y dyfodol drwy brentisiaethau a’i leoliadau profiad gwaith.  Roedd hi’n glir drwy siarad a’r prentisiaid roeddwn wedi cwrdd a nhw eu bod yn elwa o’r rhaglenni hyn a bod y sgiliau maent yn eu datblygu yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i symud ymlaen ymhellach yn y diwydiant.

“Dyma union y mathau o raglenni rwyf am weld cwmniau mawr yn ymgymryd a nhw ledled Cymru.  Er bod prentisiaethau ac addysg yng Nghymru wedi’u datganoli, nid yw’n golygu na allwn ni weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo a datblygu cynlluniau o’r fath.  Mae angen i’r cynlluniau hyn gyd-fynd a chynlluniau eraill ar draws y DU os ydynt am lwyddo i ddarparu’r sgiliau y mae ar bobl ifanc eu hangen.”

Yn gynharach heddiw, bu Mrs Gillan yn ymweld a busnes yn sir y Fflint o’r enw Cats and Pipes Ltd sef yr unig weithgynhyrchwr ol-werthu yn y DU sy’n cydosod ac yn adeiladu trawsnewidyddion catalytig yn ei ffatri ei hun.  Ar hyn o bryd mae’r busnes yn cyflogi 30 o bobl ac mae’n gobeithio ehangu.

Ychwanegodd Mrs Gillan:  “Roedd hi’n bleser cael ymweld a Cats and Pipes Ltd heddiw i gael gweld eu cyfleusterau profi, clywed mwy am eu cynnyrch a chwrdd a rhai o’u gweithwyr.  Eu llwyddiant yw union y math o fusnes teuluol a thwf sector preifat mae’r Llywodraeth hon am eu hybu a dyma pam rydym wedi rhoi nifer o gynlluniau ar waith i hybu twf.

“Mae’r diwydiant modurol yn dal yn bwysig iawn i economi Cymru a’r DU.  Dyma pam rydym yn benderfynol ein bod am ddarparu cymaint o gymorth ag sy’n bosibl i sicrhau bod gan y diwydiant modurol ddyfodol disglair yng Nghymru.”

Yn nes ymlaen heddiw bydd Mrs Gillan yn cyflwyno’r brif araith yng Nghinio Blynyddol CBI Gogledd Cymru yng Nglannau Dyfrdwy pan fydd yn tynnu sylw at yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i hybu twf yn y sector preifat ac yn amlinellu cynlluniau i roi’r economi ar sylfaen sy’n fwy cynaliadwy.

Cyhoeddwyd ar 19 May 2011