Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n dathlu carreg filltir y 100 diwrnod i fynd tan y Gemau Paralympaidd

Heddiw (21 Mai 2012), croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ddechrau’r cyfrif ‘100 diwrnod i fynd’ nes codir y llen ar gystadleuaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (21 Mai 2012), croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ddechrau’r cyfrif ‘100 diwrnod i fynd’ nes codir y llen ar gystadleuaeth gyntaf un Gemau Paralympaidd Llundain 2012.
Dychwelodd Paralympiaid Cymru yn Nhim Prydain Fawr o Gemau Beijing yn 2008 gyda chasgliad arbennig o dda o 14 o fedalau, yn cynnwys 10 aur, gan gyfrannu 25% at y casgliad cyffredinol o fedalau.
 
Bydd y rhai a ddewisir yn aelodau o Dim Paralympaidd Prydain Fawr ar gyfer Llundain 2012 yn anelu at wneud argraff yr un mor nodedig pan fydd y fflam Baralympaidd yn cael ei chynnau ymhen 100 diwrnod.
 
Wrth ddathlu’r garreg filltir, dywedodd Mrs Gillan:
 
“Chwe deg pedwar o flynyddoedd yn ol, pan drefnodd Dr Ludwig Guttman y gystadleuaeth saethyddiaeth hanesyddol honno yn Stoke Mandeville, dim ond 16 o gyn-filwyr gymerodd ran. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn Rhufain yn 1960, roedd Guttman ei hun yn gwylio wrth i 400 o athletwyr anabl gamu i mewn i’r Stadiwm Olympaidd ac wrth i’r Gemau Paralympaidd cyntaf erioed gychwyn.
 
“Bum deg a dwy o flynyddoedd yn ddiweddarach, Gemau Paralympaidd Llundain fydd y rhai mwyaf erioed, a bydd brwdfrydedd ac ymrwymiad yr athletwyr a fydd yn gwisgo lliwiau Paralympaidd Prydain Fawr yn fwy nag erioed hefyd.
 
“Wrth i ni ddechrau cyfri’r 100 diwrnod sydd i fynd, rydw i eisoes yn edrych ymlaen at weld medalau’n cael eu hennill. Bydd y rhain yn ddigwyddiadau bythgofiadwy i ni ac i’n hathletwyr.   Rydw i’n siŵr y bydd eu perfformiadau nhw yr haf yma’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn newid agwedd pobl tuag at chwaraeon anabledd ac anableddau yn fwy cyffredinol.
 
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd athletwyr Cymru wrth galon casgliad medalau Paralympiaid PF unwaith eto. Efallai bod Cymru’n wlad fechan ond rydyn ni’n gwybod sut mae gwneud argraff ar lwyfan chwaraeon y byd yn sicr. Dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw ac i’r holl staff cefnogi o Gymru.”

Cyhoeddwyd ar 21 May 2012