Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n arwain cyrch masnachu a buddsoddi gyda Gogledd a De Ddwyrain Asia

Heddiw, 13 Mawrth 2013, dechreuodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, gyrch masnachu a buddsoddi 10 diwrnod yn Asia - gan ymweld a Siapan…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 13 Mawrth 2013, dechreuodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, gyrch masnachu a buddsoddi 10 diwrnod yn Asia - gan ymweld a Siapan, Ynysoedd y Philipinos, Fietnam a Hong Kong.  

Ar ran y Prif Weinidog, bydd ei gyfarfodydd yn cefnogi ymgyrch Prydain ‘FAWR’, hyrwyddo’r Deyrnas Unedig fel man ‘agored i fusnes’, creu partneriaethau buddsoddi strategol, yn enwedig yn y marchnadoedd newydd sy’n ymddangos, ac yn annog myfyrwyr o Asia i astudio yn y DU. 

Dechreuodd ei siwrnai drwy hedfan ar adenydd Cymreig Airbus A380 i Tokyo, lle bydd yn ymweld a buddsoddwyr niwclear newydd y DU, Hitachi Cyf.  

Yn ystod ei gyfnod yn Siapan, bydd Mr Jones yn cwrdd a Llywydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi, i drafod y gadwyn gyflenwi, mesurau diogelwch a’r broses adeiladu a ddilynir pan fydd niwclear newydd, ar ffurf Prosiect Horizon, yn cyrraedd Wylfa ar Ynys Mon ac Oldbury yn Swydd Gaerloyw. 

Bydd trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar gytundeb Rhaglen Gwibio o Ddinas i Ddinas (IEP) gyda Threnau Agility, sydd werth £4.9 biliwn - consortiwm a arweinir gan Hitachi - i adeiladu bron i 600 o gerbydau tren nodedig ar gyfer Prif Reilffyrdd Arfordir Dwyrain Lloegr a’r Great Western. Mae’r buddsoddiad mewn trenau IEP modern, cyflymach, o safon uchel, yn adeiladu ar y rhaglen barhaus i wella’r rhwydwaith trenau, gan gynnwys trydaneiddio Prif Linell Great Western i Abertawe a Rheilffyrdd Cymoedd Caerdydd. 

Oddi yno, bydd Ysgrifennydd Cymru’n ymweld a Manila, lle bydd yn cynnal trafodaethau dwyochrog gydag uwch arweinwyr gwleidyddol a busnes i gryfhau cyfleoedd masnachu a buddsoddi’r DU. Bydd Mr Jones hefyd yn rhoi’r ddarlith agoriadol pan fydd Siambr Fasnach Prydain yn cael ei hail-lansio yn Ynysoedd y Philipinos.   

Yn Fietnam, Mr Jones fydd yn arwain dirprwyaeth y DU i SEAMEO (Sefydliad Gweinidogion Addysg De Ddwyrain Asia), lle bydd yn llofnodi cytundeb ffurfiol yn galluogi’r DU i ddod yn Aelod Cysylltiol. Yn ei araith, bydd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod prifysgolion y DU yn cydweithio gyda gwledydd eraill i gynyddu eu gallu. Bydd yn gorffen ei daith yn Hong Kong, lle bydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gyda buddsoddwyr busnes i hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru, ac yn y DU yn gyffredinol.  

Cyn y daith, dyma oedd gan y Prif Weinidog, David Cameron, i’w ddweud:

“Yr wyf wrth fy modd bod David Jones yn chwifio baner busnesau a phrifysgolion Prydain yn Nwyrain Asia. Bydd hyrwyddo masnachu ac annog buddsoddi yng Nghymru yn creu hwb hollbwysig i’r economi a bydd yn ein helpu i gystadlu yn y ras fyd-eang.” 

Dywedodd Mr Jones:  

“Mae gan y gwledydd y byddaf yn ymweld a hwy rai o’r economiau sy’n tyfu gyflymaf yn y Byd.  

“Bydd fy ngweithgarwch yn Asia yn cryfhau perthnasau dwyochrog, yn adeiladu brand ar gyfer economi Prydain ac yn hyrwyddo ein buddiannau busnes.  

“Bydd cynyddu ymwybyddiaeth o botensial masnachu a buddsoddi’r DU yn ein gwneud yn hoff wlad y pwerau newydd sy’n ymddangos.  

“Mae hyn yn cefnogi uchelgais y Canghellor o sicrhau 1 triliwn o allforion a’n nod o gael 100,000 o gwmniau eraill yn allforio erbyn 2020. O fewn hyn, ein nod yw rhagor na dyblu masnachu gyda’r prif farchnadoedd newydd erbyn 2015.”

Cyhoeddwyd ar 13 March 2013