Ysgrifennydd Cymru yn lansio cyfres o gyfarfodydd ynglyn a Brexit
Ysgrifennydd Cymru yn lansio cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru i sicrhau bod y wlad yn y sefyllfa gryfaf posibl i ffynnu ar ôl Brexit.

Gan ddechrau yn Llanfair-ym-Muallt heddiw, bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Guto Bebb, Gweinidog Cymru yn cwrdd â ffermwyr, undebau’r ffermwyr a chynrychiolwyr eraill o’r sector amaethyddol i gael eu barn ar bwerau’n dychwelyd o’r UE.
Yn benodol, disgwylir i’r drafodaeth ganolbwyntio ar y sefyllfaoedd yn y dyfodol lle gellid gwneud penderfyniadau’n lleol, a lle y gallai fframweithiau ledled y DU gyfan fod yn ddymunol.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Gweinidogion yn cwrdd â chynrychiolwyr o amrywiaeth o sectorau, yn cynnwys y sector gweithgynhyrchu a gwyddorau bywyd, mewn nifer o leoliadau ledled Cymru gyfan. Byddant yn ceisio cael atebion gan y sectorau hyn i saith prif gwestiwn:
- Beth yw eich barn ar y ffaith bod y pwerau hyn yn dychwelyd o’r UE?
- Yn eich barn chi, beth fyddai’n gweithio orau i’r bobl rydych chi’n eu cynrychioli?
- Yn eich barn chi, ym mha feysydd y mae’n ofynnol cael safonau cyson neu amrywiadau lleol?
- Beth yw’r ffordd orau o sicrhau parhad a sicrwydd cyfreithiol o’r cychwyn cyntaf?
- Yn eich barn chi, pa gyfleoedd y mae gadael yr UE yn eu cynnig i’r bobl/diwydiant rydych chi’n eu cynrychioli?
- Beth ddylwn ni ei wneud i sicrhau nad ydym yn creu rhwystrau i fyw neu fasnachu o fewn y DU?
- Pa safonau cyffredin sydd eu hangen arnom i sicrhau bod y DU yn gallu masnachu yn y dyfodol mewn modd a fydd yn fuddiol i’r DU gyfan?
Dywedodd, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, cyn y digwyddiad cyntaf:
Rydw i’n benderfynol o wneud yn siŵr bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf posibl i elwa o Brexit a bydd y digwyddiadau hyn yn ein helpu i ddeall sut y gall Llywodraeth y DU ddod o hyd i’r ateb gorau.
Mae’r bobl rydw i’n bwriadu cwrdd â nhw dros yr wythnosau nesaf yn allweddol i sicrhau bod economi Cymru yn parhau i dyfu. Drwy gydweithio, rydw i’n hyderus y gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw yma i adeiladu Prydain decach, gryfach sy’n gweithio i bawb.
Dywedodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru:
Gyda hinsawdd wleidyddol ac ariannol sy’n newid yn gyflym, mae’n hanfodol bod pob maes o’r diwydiant amaethyddol yn dod ynghyd ac yn cytuno ar sut y gellid manteisio i’r eithaf ar y newidiadau hyn.
Mae’n addas bod cyfarfod cyntaf Llywodraeth y DU o’r fath yn cael ei gynnal yma heddiw ar faes y sioe, cartref Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru, sydd wedi dod yn llwyfan pwysig ar gyfer ymgynghoriadau proffil uchel dros y blynyddoedd.
Gan gynrychioli dros 21,000 o aelodau o bob sector a chymuned amaethyddol a gwledig ledled Cymru, bydd y gymdeithas yn cyfrannu at y trafodaethau hyn ac yn helpu i lywio a dylanwadu ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.