Ysgrifennydd Cymru’n lansio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes amgryptio diogelwch.
Lansiodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru dechnoleg ddiweddaraf EADS ym maes amgryptio diogelwch yn sioe flynyddol y DSEi heddiw [dydd Mawrth 10fed Medi].
Welsh Secretary launches EADS’ latest line in security encryption at DSEi show
Mae EADS Cassidian, cwmni o Gasnewydd, de Cymru, wedi dylunio a chreu cynnyrch sy’n gallu amgryptio data i’w drosglwyddo dros y rhyngrwyd gyhoeddus. Mae amrywiad diweddaraf y cynnyrch hwn wedi’i ddylunio ar gyfer y farchnad fasnachol, ac fe’i gelwir yn Ectocryp Yellow.
Lansiodd Mr Jones y cynnyrch ochr yn ochr â Phennaeth Cassidian, Michael Stevens, yng nghanolfan Excel, Llundain yn ystod i sioe amddiffyn flynyddol, DSEi 2013.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Ectocryp Yellow yn rhan o’r sylfaen dechnoleg sy’n gosod y DU ar flaen y gad o ran trosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel dros y rhyngrwyd gyhoeddus.
Mae’r ffaith ei fod yn cynnwys y stamp ‘Cynhyrchwyd yng Nghymru’ yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono, ac mae’n dangos bod gennym weithlu effeithiol a medrus iawn yma yng Nghymru.
Dywedodd Michael Stevens, Prif Swyddog Gweithredol Cassidian UK;
Ystyrir y DU yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg amgryptio. Mae Cassidian UK, gyda’i bencadlys yng Nghasnewydd, De Cymru, ar flaen y gad gyda’r gwaith hwn, ac mae wedi meithrin enw da iawn o ran diogelwch rhwydwaith gan weithio gydag asiantaethau’r llywodraeth i wneud yn siŵr bod gwybodaeth sensitif a Chyfrinachol Iawn yn cael ei hanfon yn ddiogel.
Mae ein cysylltiadau gwaith gyda Phrifysgolion gorau Cymru, y gadwyn gyflenwi leol ragorol yng Nghymru a’n hagosrwydd at sefydliadau diogelwch pwysig eraill, oll wedi cyfrannu at ein llwyddiant yn y maes.
Yn ystod ei ymweliad, manteisiodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y cyfle i weld nifer o gwmnïau eraill â chanddynt gysylltiadau cryf â Chymru, gan gynnwys Raytheon UK a General Dynamics UK.
Nodiadau i Olygyddion:
1.Mae Cassidian, sef adran diogelwch ac amddiffyn EADS, yn arloeswr byd-eang ym maes datrysiadau o ran amddiffyn a diogelwch. Mae’r cwmni’n darparu systemau amddiffyn blaengar ar draws y gadwyn gyfan o’r synwyryddion i’r systemau gorchymyn a rheoli i systemau awyr heb oruchwylwyr ac awyrennau ymladd. Ym maes diogelwch, mae Cassidian yn darparu systemau goruchwylio, datrysiadau diogelwch seibr a chyfathrebu diogel i gwsmeriaid ledled y byd. Yn 2012, enillodd Cassidian – sy’n cyflogi oddeutu 23,000 o weithwyr – refeniw o € 5.7 biliwn.
2.I gael rhagor o wybodaeth am Ectocryp Yellow neu waith EADS Cassidian, cysylltwch â’r Pennaeth Cyfathrebu – Deborah Waddon 07919 696 443.