Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn lansio ‘Cymraeg Proffesiynol’ - y radd Gymraeg sydd wedi’i hanelu at fusnesau Cymru

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, yn ymuno â miloedd o ymwelwyr a fydd yn mynd i'r Fenni yr wythnos hon i ddathlu diwylliant Cymru ar ei orau a’r iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. (29 Gorffennaf – 6 Awst)

Eisteddfod tents

Yma y bydd Ysgrifennydd Cymru, yn cynrychioli Llywodraeth y DU, ddydd Mawrth 2 Awst yn lansio cwrs gradd BA (Anrh.)newydd Prifysgol Bangor, ‘Cymraeg Proffesiynol’.

Ac yntau’n annerch cynulleidfa a fydd yn cynnwys athrawon o Brifysgol Bangor, cyn-fyfyrwyr a rhanddeiliaid ehangach, bydd Ysgrifennydd Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd y radd newydd hon i gyflogwyr Cymru. Ar y cwrs bydd y myfyrwyr yn astudio ac yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol a galwedigaethol yr iaith Gymraeg. Bydd hyn yn ei dro yn darparu gweithlu medrus sy’n siarad Cymraeg, ac yn helpu i sicrhau dyfodol iach i’r iaith.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS:

Mae’n fraint cael siarad yn lansiad cwrs newydd Prifysgol Bangor, Cymraeg Proffesiynol. Mae’n amlwg mai ymateb yw’r cwrs hwn i gyflogwyr y mae angen medrau arbennig yn y Gymraeg arnynt, sy’n addas ar gyfer y gweithle. Dyma dystiolaeth hynod o sefyllfa’r Gymraeg heddiw, ac mae lansio Cymraeg Proffesiynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn briodol iawn.

Yr Eisteddfod yw uchafbwynt calendr diwylliannol Cymru ac mae dros 150,000 o bobl o bob rhan o’r byd yn mynychu. Bob blwyddyn mae’n rhoi llwyfan perffaith i Gymru ddangos ei thalent diwylliannol a hyrwyddo’r Gymraeg.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru:

A minnau’n siaradwr Cymraeg, rwy’n falch iawn o’r Eisteddfod a beth mae’n ei olygu i bobl Cymru. Mae tîm yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i sicrhau ei llwyddiant. Mawr obeithiaf y bydd 2016 yn flwyddyn lwyddiannus i’r arddangoswyr, y cystadleuwyr a’r gymuned fusnes leol hefyd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â phrifysgolion eraill hefyd sy’n mynychu a bydd yn annerch cynulleidfa o’r trydydd sector yn nerbyniad WCVA, a fydd yn lansio’u gwobrwyon ar gyfer 2016.

Bydd yr Is-Ysgrifennydd Seneddol, Guto Bebb AS, yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher 3 Awst. Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn ymweld â nifer o arddangoswyr. Yn eu plith fydd Dŵr Cymru, Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, a Chymdeithas Cymru-Ariannin. Bydd hefyd yn ymweld â chompownd BBC Cymru Wales ac S4C.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae’n bleser pur bob amser cael ymuno â’r miloedd sy’n dod i’r Eisteddfod i ddathlu’r iaith Gymraeg a chelfyddydau a diwylliant Cymru. Mae’r Eisteddfod yn rhoi Cymru ar lwyfan y gwyliau rhyngwladol ac mae’n hyrwyddo ein treftadaeth i’r byd ehangach - ni ellir gorbwysleisio effaith hyn. Dymunaf ‘bob lwc’ i’r holl gystadleuwyr eleni, a phob llwyddiant i’r Eisteddfod i gyd.

Cyhoeddwyd ar 2 August 2016