Ysgrifennydd Cymru yn canmol gwaith ‘ysbrydoledig’ Canolfan Gefnogaeth Gogledd Cymru
Fel rhan o’i chefnogaeth barhaus i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8 2012), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, heddiw wedi…
Fel rhan o’i chefnogaeth barhaus i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8 2012), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, heddiw wedi cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i daclo trais yn erbyn menywod a merched wrth iddi ymweld a Chanolfan Trais ac Ymosodiad Rhyw Gogledd Cymru (RASA).
Mae’r ymweliad yn cyd-fynd a lansiad yr Ysgrifennydd Gwladol, Teresa May o’r cynllun gweithredu traws-lywodraethol, diwygiedig a fydd yn datblygu’r strategaeth ehangach ‘Galwad i Derfynu Trais yn erbyn Menywod a Merched’ a lansiwyd ym mis Tachwedd 2010.
Cyfarfu Ysgrifennydd Cymru gyda chyfarwyddwr RASA, Katherine Moseley yn eu canolfan yng Ngwynedd er mwyn clywed am y gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud i gefnogi pobl ifanc, merched a dynion sydd wedi profi unrhyw fath o drais neu gamdrin rhywiol.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Mae gan bawb yr hawl i fyw yn ddiogel a heb ofn ac mae cael gwared ar drais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.
“Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i ddod i’r ganolfan heddiw a chael cyfarfod a’r bobl sy’n darparu gwasanaeth mor werthfawr a chefnogaeth ddiwyro i bobl sydd wedi profi trais a chamdrin rhywiol ledled gogledd Cymru.
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn fodd o atgoffa pobl nad yw trais yn erbyn menywod a merched yn dderbyniol, na fydd yn cael ei oddef a bod help a chefnogaeth ar gael i’r rhai hynny sydd ei angen.
Ers sefydlu Llinell Argyfwng Trais Bangor ym 1983 a’i ail-lansio fel RASA yn 2004, mae’r ganolfan wedi dod yn ddarparwr cydnabyddedig o wasanaethau arbenigol o ansawdd ar gyfer rhai sydd wedi goroesi trais rhywiol.
Dywedodd Katherine Moseley:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddiwrnod perffaith i gynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu menywod a merched yn ddyddiol, a phwysigrwydd y gwasanaethau a gynigir gan Ganolfan Trais ac Ymosodiad Rhyw Gogledd Cymru er mwyn helpu rhai sydd wedi goroesi trais rhywiol i wella a thyfu ar ol y camdrin maen nhw wedi’i ddioddef.
“Mae’n ddiwrnod arbennig, ac yn nodi’r cyfraniad anferthol a wneir ledled y byd gan yr unigolion ymwybodol a sensitif hynny sydd am weld ein cymdeithasau yn rhydd o gamdrin. Llawer o ddiolch i bawb am eu cyfraniad i’r weledigaeth honno. Rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.”
Nodiadau i olygyddion
- Mae Canolfan Trais ac Ymosodiad Rhyw Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth llinell gymorth i bobl sydd wedi profi trais rhywiol ac i unrhyw un sydd yn cefnogi rhywun sydd wedi profi trais rhywiol.
- Ym mis Tachwedd 2010, nododd Llywodraeth y DU ei gweledigaeth a’i hegwyddorion sylfaenol yn ‘Galwad i Derfynu Trais yn Erbyn Menywod a Merched’. Ym mis Mawrth 2011, fe gyhoeddwyd amrediad manwl o 88 ffordd ymarferol o symud y strategaeth yn ei blaen.
- Mae gan Lywodraeth Cymru ei Strategaeth Camdrin Domestig ei hun a gyhoeddwyd ym mis Medi 2011 ac sydd wedi’i datblygu yn unol ag agenda trais domestig y Swyddfa Gartref. Mae ‘_Yr Hawl i fod yn Ddiogel’ _ yn strategaeth integredig 6 mlynedd ar gyfer ymdrin a phob math o drais yn erbyn merched.