Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dechrau 2018 gyda thrafodaethau ynghylch ymadael â'r UE

Alun Cairns: Rydyn ni am gael y canlyniad gorau i bob gwlad yn y DU ac i bob sector o'n heconomi.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynd ati ar unwaith yn 2018 i gynnal cyfarfod nesaf ei Banel o Arbenigwyr ar gyfer Ymadael â’r UE yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau 11 Ionawr 2018).

Mae’r panel yn rhan o ymgysylltiad cenedlaethol Llywodraeth y DU â’r rhai sydd â buddiannau allweddol yn ein hymadawiad â’r UE.

Bydd Mr Cairns yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o fusnesau, prifysgolion ac o’r sectorau gwirfoddol, ffermio, bwyd ac iechyd ym Mhwynt Caspian i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer Brexit ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y negodi sy’n mynd rhagddo ac am hynt y Bil Ymadael.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Wrth i ni nesáu at ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae’r gwaith o wrando ar y rhai sy’n byw, gweithio a chynnal busnes yng Nghymru a’u deall, yn dod yn bwysicach nag erioed.

Prif nod Llywodraeth y DU yw sicrhau bod lleisiau sectorau o bob rhan o’r DU yn cael eu clywed wrth i ni gytuno ar drefniant sy’n gweithio i bawb.

Dyna pam fy mod i’n gweithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r sector yng Nghymru i archwilio’r heriau sy’n deillio yn sgil Brexit ac archwilio’r cyfleoedd gwych ar gyfer twf mewn busnes a chyflogaeth.

Mae Bil Ymadael â’r UE yn ddeddfwriaeth allweddol er budd cenedlaethol a fydd yn troi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU ar y diwrnod ymadael, gan roi sicrwydd a pharhad i ni pan fyddwn ni’n gadael yr UE.

Sefydlodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y Panel o Arbenigwyr i weithio gydag ef er mwyn sicrhau bod Cymru yn ymadael â’r UE mewn modd trefnus a didrafferth. Mae’r pumed cyfarfod heddiw yn adeiladu ar y trafodaethau adeiladol y maent eisoes wedi’u cael ar sut y dylid rhoi’r pwerau sy’n dychwelyd o’r UE, ar waith ar ôl y diwrnod ymadael.

Cyhoeddwyd ar 11 January 2018