Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn adleisio’r cais i gwmnïau yng Nghymru fanteisio ar gyfleoedd masnachu gyda’r Dwyrain Canol

Taith fasnach Alun Cairns i Qatar.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn teithio i’r Dwyrain Canol heddiw i gael cyfres o gyfarfodydd gyda buddsoddwyr yn Qatar i drafod y cyfleoedd masnachol niferus y gall Cymru eu cynnig, fel rhan o Brydain sy’n gref yn fyd-eang.

Bydd Mr Cairns yn cwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol Qatar Airways HE Akbar Al Baker, a gadarnhaodd yn gynharach y mis hwn y bydd gwasanaeth y cwmni o Gaerdydd i Doha yn dechrau ar 1 Mai 2018. Yna bydd yn westai i gynulleidfa o uwch aelodau o Gymdeithas Gwŷr Busnes Qatar cyn cyfarfod gyda cwmni buddsoddi Qatari Diar i drafod buddsoddiadau busnes cyfredol a sydd â photensial iyn y dyfodol yn y DU.

I orffen ei daith brysur, Mr Cairns fydd Gwestai Anrhydeddus Llysgennad Prydain yn arddangosfa’r Red Arrows yn Qatar fel rhan o daith i’r Dwyrain Canol i hybu cysylltiadau hirsefydlog y Deyrnas Unedig ar draws y Gwlff.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU yn ymroddedig iawn i feithrin ymgysylltiad, partneriaethau a chyfleoedd masnachol cryfach gyda Qatar. Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos gyda Qatar Airways i sicrhau’r llwybr awyr arloesol hwn i’r Dwyrain Canol o Gymru. Rwy’n benderfynol o gyfeirio’r cysylltiadau masnachol rhwng Cymru a Qatar i’r lefel nesaf.

Dyna pam fy mod yn ymweld â’r partner masnachu pwysig hwn heddiw. O deithiau masnach y llywodraeth i’r cyfleoedd y bydd y gwasanaeth dyddiol newydd o Gaerdydd i Doha yn eu cyflwyno, rwyf eisiau i Gymru fod yn y sefyllfa orau i fanteisio ar bob cyfle sydd gennym i gynyddu buddsoddiad o’r Dwyrain Cymru yng Nghymru.

Qatar yw trydedd farchnad allforio fwyaf y DU yn y Dwyrain Canol eisoes ac mae hefyd yn gyfrifol am £35 biliwn o fuddsoddiad presennol yn y DU. Mae masnach ddwyochrog yn werth mwy na £5 biliwn y flwyddyn ac mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Mr Cairns’ visit is part of a series of international missions taken by senior government ministers to showcase the UK’s commitment to forming even stronger global economic, investment and security ties as we prepare to leave the EU.

Mae ymweliad Mr Cairns yn rhan o gyfres o deithiau rhyngwladol gan uwch weinidogion llywodraeth y DU i arddangos ymrwymiad y DU i ffurfio cysylltiadau economaidd, buddsoddi a diogelwch rhyngwladol cryfach fyth wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ymunodd hefyd â Phrif Weinidog y DU yn y Fforwm Buddsoddi mwyaf a gynhaliwyd erioed rhwng Qatar a’r DU ym Mhrydain yn Birmingham yn gynharach eleni lle pwysleisiodd y cynnig unigryw sydd gan Gymru i ddarpar fewnfuddsoddwyr o’r Dwyrain Canol.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Ar adeg pan mae’r DU yn trafod partneriaeth newydd, ddofn ac arbennig gyda’r Undeb Ewropeaidd, mae’n parhau i edrych allan i weddill y byd.

Rydym yn awyddus i gael cysylltiad agosach gyda’r rhannau hynny o’r economi fyd-eang sy’n tyfu gyflymaf ac sy’n fwyaf dylanwadol - ac mae’n amlwg bod Gwladwriaethau’r Gwlff ar y rhestr honno. Mae Qatar yn chwarae rhan flaenllaw fel un o’r economïau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd a’r wlad fwyaf cystadleuol yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Yr unig lwybr sicr i lwyddiant yw dangos ymroddiad parhaol i wlad sydd â photensial enfawr a chynyddol; sy’n gwerthfawrogi ei chysylltiadau cyfeillgar a hanesyddol â’r DU; ac sy’n cynnal dyhead cryf i weld y berthynas honno’n datblygu ymhellach ac yn broffidiol.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at 26,000 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi’u nodi fel darpar fewnfuddsoddwyr a chynnwys copi o ganllaw allforio pwrpasol.

Mae Canllaw Allforio Cymru yn cyflwyno’r amrediad llawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys storïau ysbrydoledig am gwmnïau o Gymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gwmnïau yng Nghymru ar gael yma

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae Prif Weinidog y DU wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r cysylltiadau presennol rhwng y DU a’r Gwlff. Yn ystod ei hymweliad i Gyngor Cydweithredu’r Gwlff (GCC) yn Bahrain ym mis Rhagfyr y llynedd, fe fynegodd y Prif Weinidog ei hymrwymiad i bartneriaeth wirioneddol rhwng y DU a Qatar sy’n cwmpasu diogelwch ac amddiffyn yn ogystal â masnach.
  • Yn 2015 cyfanswm allforion y DU i Qatar oedd £2.6 biliwn, gyda gwerth £2.7 biliwn o allforion o Qatar i’r DU.
  • Mae Gweledigaeth Genedlaethol Qatar 2030 yn creu potensial arwyddocaol i’r dyfodol fel cynllun datblygiad cymdeithasol ac economaidd Qatar ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae’n ceisio adeiladu pont rhwng y presennol a’r dyfodol ac yn ceisio symud Qatar ymlaen drwy amrywio ei heconomi oddi wrth olew a nwy a chanolbwyntio ar ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a dynol.
Cyhoeddwyd ar 29 September 2017