Datganiad i'r wasg

Ymdrechion adfywio Glyn Ebwy’n creu argraff ar Ysgrifennydd Cymru

Heddiw (10 Mehefin), ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, â Glyn Ebwy, i weld sut mae cynlluniau pwysig i adfywio’r ardal yn dod yn eu blaenau.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Ebbw Vale

Ebbw Vale

Mae Glyn Ebwy yn un o’r ardaloedd sydd ar fin elwa o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i drydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd. Ym mis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddwyd y byddai Prif Reilffordd y Great Western hyd at Abertawe i’r gorllewin a holl Reilffyrdd y Cymoedd yn cael eu trydaneiddio, yn ogystal â Rheilffordd Bro Morgannwg.

Ynghyd ag Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Nick Smith, gwelodd Mr Jones sut roedd y buddsoddiad diweddar a’r buddsoddiad arfaethedig yn datblygu. Aethant i weld safle arfaethedig Cylchdaith Cymru yn Rasa i ddechrau, ble cafodd wybodaeth am y cynlluniau arfaethedig i adeiladu’r trac chwaraeon modur pwrpasol cyntaf yn y DU.

Disgwylir i’r datblygiad, sy’n cael ei ystyried gan yr adran gynllunio ar hyn o bryd, arwain at gyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy lleol sylweddol yn yr ardal mewn amrywiaeth eang o sectorau. Yn ddiweddarach, aeth pawb i’r Gweithfeydd – prosiect adfywio sy’n trawsnewid yr hen safle gwaith dur yng Nglyn Ebwy.

Cyfarfu Mr Jones, a ymwelodd â’r safle yn 2010 hefyd, â Chyfarwyddwr y Prosiect, Richard Crooks, i gael gwybodaeth am gynnydd y prosiect penodol hwn. Cyfarfu pawb yn y Swyddfeydd Cyffredinol – adeilad a oedd yn arfer bod wrth galon yr hen waith dur, ac sydd bellach wedi’i drawsnewid yn atyniad pwysig i ymwelwyr.

Mae datblygiadau eraill ar y safle’n cynnwys ysbyty newydd, datblygiadau tai carbon isel, Parth Dysgu, sy’n darparu addysg ôl-16 Blaenau Gwent ar y cyd â Choleg Gwent.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i ddychwelyd i Lyn Ebwy heddiw, a chael gweld sut mae’r prosiectau adfywio pwysig hyn o fudd i gymunedau yn yr ardal.

Mae’r Gweithfeydd, yn arbennig, yn enghraifft wych o agwedd gynaliadwy tuag at adfywio, ac mae’n glod i’r gweithlu ym Mlaenau Gwent. Mae’r gymuned wedi bod wrth galon datblygu’r prosiect cyfan, sy’n arwain at swyddi hirdymor ac ardaloedd hamdden, yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol a datblygiadau economaidd cynaliadwy.

Mae’n bwysig fod prosiectau adfywio’n buddsoddi mewn rhoi gwell ansawdd bywyd i bobl a gwella’r amgylchedd ble maen nhw’n byw. Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiectau rwyf wedi’u gweld ac wedi clywed amdanyn nhw heddiw’n datblygu ac yn cyrraedd rhagor o gerrig milltir yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Cyhoeddwyd ar 10 June 2013