Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n cynnal uwchgynhadledd swyddi ar gyfer Cymru

  Heddiw, yn yr Uwchgynhadledd Swyddi gyntaf ar gyfer Cymru (4 Chwefror 2013), bydd Llywodraeth y DU yn pwysleisio pa mor bwysig yw sefydlu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Secretary of State speaks to SMEs

 

Heddiw, yn yr Uwchgynhadledd Swyddi gyntaf ar gyfer Cymru (4 Chwefror 2013), bydd Llywodraeth y DU yn pwysleisio pa mor bwysig yw sefydlu partneriaeth ledled Cymru er mwyn mynd i’r afael a diweithdra ymhlith pobl ifanc.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cynnal y digwyddiad, a fydd yn canolbwyntio ar hybu cyflogaeth i ieuenctid yn y sector busnesau bach a chanolig, yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd. Mae nifer fawr o fusnesau a sefydliadau o bob cwr o Gymru wedi cael gwahoddiad i fynychu a chymryd rhan mewn trafodaethau am sut mae cynnig rhagor o gyfleoedd profiad gwaith, interniaeth a phrentisiaeth i bobl ifanc.

Hefyd bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n croesawu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i’r digwyddiad.  Bydd y ddau’n camu i’r llwyfan er mwyn pwysleisio’r ymrwymiad i sicrhau cymaint o gyfleoedd a phosib i bobl ifanc gael gwaith a datblygu mewn swyddi.

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

“Mae’r Llywodraeth yn hynod ymwybodol o’r problemau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu o hyd wrth chwilio am eu swydd gyntaf, ac mae’n bod yn realistig am raddfa’r her. Mae’r ffigurau diweithdra diweddaraf wedi dangos gostyngiad yn lefel y diweithdra ymhlith ieuenctid; er hynny, mae nifer y bobl ifanc sy’n ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd dal yn rhy uchel.                                                           

“Dyna pam fod y digwyddiad hwn heddiw mor bwysig. O’r Contract Ieuenctid i’r Rhaglen Waith, mae’r ystod o gefnogaeth sydd ar gael i helpu pobl ifanc i gael gwaith yn eang ac amrywiol, ac mae’r Uwchgynhadledd hon yn darparu llwyfan a chynulleidfa berffaith i helpu i gyfleu’r neges honno.

“Ond ni ddylai’r ddwy Lywodraeth yng Nghymru weithio ar wahan. Bydd cydweithio a’r gymuned fusnes yn hanfodol os ydyn ni am gyflawni ein nod cyffredin.

“Rydw i’n edrych ymlaen at rai trafodaethau heriol a deinamig heddiw wrth i ni gydweithio i helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr hyfforddiant, y profiad gwaith a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i gael dyfodol llwyddiannus.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Mae hwn yn gyfnod economaidd anodd a’r hyn sy’n flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru yw creu swyddi i’n pobl ifanc ni.Dyna pam rydyn ni wedi sefydlu ein cynllun cyflogaeth arloesol, Twf Swyddi Cymru, i helpu pobl ifanc wrth iddyn nhw chwilio am waith.Hyd yma rydyn ni wedi sicrhau 4,000 o gyfleoedd gwaith ac mae’r swyddi sy’n cael eu creu yn swyddi newydd, ac felly maen nhw’n gallu helpu busnesau Cymru i dyfu.

“Hefyd rydyn ni’n parhau i gefnogi busnesau i greu a diogelu swyddi, drwy becyn cyllido cynhwysfawr sy’n werth £80 miliwn.Mae ein rhaglen Sefydlu Busnes wedi helpu i sefydlu 4,860 o fentrau newydd a chreu mwy na 10,700 o swyddi.Mae’n ddyletswydd ar i lywodraethau ar bob lefel gymryd pob cam posib i roi sylw i ddiweithdra ymhlith ieuenctid.

Hefyd bydd Uwchgynhadledd Swyddi Cymru’n cynnwys cyfraniadau gan Canolfan Byd Gwaith ynghylch sut mae helpu pobl ifanc i gael y profiad sy’n hanfodol i sicrhau cyflogaeth.

Dywedodd Martin Brown, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaith gyda Canolfan Byd Gwaith Cymru:
 
“Y broblem fwyaf i lawer o bobl ifanc yng Nghymru yw diffyg profiad ymarferol mewn swydd, oherwydd mae hynny mor bwysig wrth geisio gwneud argraff ar ddarpar gyflogwr. Mae ein Contract Ieuenctid ni’n cynnig y profiad yma i bobl ifanc, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant perthnasol y mae arnynt ei angen efallai, a chyfle i ddangos yn uniongyrchol i gyflogwyr faint gallant ei gyfrannu at fusnes.

“Ond, yn bwysicach fyth, rydyn ni hefyd yn cynnig gwir gymhelliant i gyflogwyr i roi swyddi i bobl ifanc yng Nghymru ac mae taliad o £2,275 ar gael iddyn nhw ar gyfer pob person ifanc 18-24 oed maen nhw’n eu cyflogi, os ydyn nhw wedi bod allan o waith am chwe mis neu fwy.”

 

NODIADAU I OLYGYDDION
   
*  Mae’r Rhaglen Waith yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i hawlwyr sydd angen mwy o help i chwilio am waith yn ddygn ac yn effeithiol. Mae cyfranogwyr yn cael cefnogaeth i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Fe’i cyflwynir gan ddarparwyr gwasanaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gontract ac maent yn cael rhwydd hynt i benderfynu sut orau i gefnogi cyfranogwyr, gan fodloni’r safonau cyflwyno gwasanaeth isafswm hefyd.     

*  Mae’r Contract Ieuenctid yn becyn cefnogaeth gwerth bron i £1biliwn i helpu pobl ifanc ddi-waith i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i swydd. Dros dair blynedd o fis Ebrill 2012 ymlaen, bydd y Contract Ieuenctid yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc ac yn gwella mesurau Cael Prydain i Weithio gyda mwy o ffocws ar bobl ifanc.

Cyhoeddwyd ar 4 February 2013