Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu David Willetts i 5ed cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes

Heddiw croesawodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y Gweinidog Prifysgolion David Willetts i bumed cyfarfod Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Welsh-Secretary-5th-BAG-meeting-480x360

Heddiw croesawodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y Gweinidog Prifysgolion David Willetts i bumed cyfarfod Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain.

Ymunodd Mr Willetts a Mrs Gillan yn ogystal ag aelodau’r grŵp yn cynrychioli busnesau Cymru i drafod y gwaith a wneir gan y Llywodraeth i hyrwyddo twf drwy ei Strategaeth Arloesi ac Ymchwil ar gyfer Twf. Hefyd cyfarfu’r grŵp a David Davies o ESTnet, i glywed sut y mae’r rhwydwaith sydd wedi ennill gwobrau yn arloesi gwaith gyda busnesau mawr er mwyn cefnogi cwmniau lleol llai.

Hefyd croesawodd yr Ysgrifennydd Gwladol dri aelod newydd i’r grŵp, gan gynnwys Helen Molyneux (New Law Solicitors), Emma Watkins (CBI) a Mark Wolfenden o Londri Afonwen, enillydd ‘Fast Growth 50’ Cymru yn 2011.

Dywedodd Mrs Gillan: “Bu heddiw’n gyfle gwych i glywed adborth o lawr gwlad i weld sut y mae busnesau Cymreig yn dod ymlaen. Mae busnesau Cymru’n gweithredu mewn cyfnod heriol ac mewn marchnadoedd cystadleuol byd-eang. Fel y gwelsom yn yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn cyhoeddiadau gan Peacocks a Lloyds - mae angen i ni sicrhau yn fwy nag erioed ein bod yn cynnal perthynas agos a busnesau ar lawr gwlad yng Nghymru.

“Un o’r ffyrdd y gallwn adfywio’r farchnad a hybu twf ar gyfer busnesau yw sicrhau bod digon o gyfleoedd i unigolion a mudiadau weithredu rhaglenni arloesi ac ymchwil a all gael effaith hirdymor ar y cwmni a’i allu i fuddsoddi ac ehangu. Roeddwn yn falch iawn o groesawu fy nghydweithiwr, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Sgiliau a Thechnoleg, David Willetts yma heddiw a soniodd wrth y grŵp am beth o’r gefnogaeth a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi yn y DU.

“Mae’r amgylchedd busnes yng Nghymru wedi dioddef dwy golled fawr yn yr wythnos ddiwethaf gyda’r newyddion bod Peacocks yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr a cholli swyddi yn Lloyds. Ond hyd yn oed yn yr amseroedd dreng hyn, mae arwyddion calonogol. Dangosodd Ystadegau’r Farchnad Lafur yn ddiweddar i’r gyfradd gyflogaeth gynyddu bron i 1% (0.9%), gyda lefel diweithdra 1000 yn is. Yr wythnos diwethaf, cyfarfum a thri o gwmniau o Abertawe sydd, er gwaethaf amodau masnachu heriol, mewn gwirionedd yn gwneud yn well nag erioed o’r blaen. Dangosodd Trojan Electronics, Mrs Bucket a MiSpace (rhan o Grŵp Midas) ddycnwch, penderfyniad ac egni sy’n arddangos y math o ymroddiad a sgiliau sy’n gwneud Cymru’n lle gwych i gynnal busnes. Mae’r Llywodraeth hon yn cymryd busnes twf o ddifrif, a chyda’r ystod o fesurau sydd yn eu lle ar hyn o bryd, nid oes gennyf ddim amheuaeth y gallwn ddisgwyl clywed am lawer mwy o lwyddiannau fel y rhai a welais yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf.”

Nodiadau i Olygyddion

  • Gellir canfod **Strategaeth Arloesi ac Ymchwil ar gyfer Twf y DU **yn: http://www.bis.gov.uk/policies/innovation/innovating-for-growth
  • Mae’r strategaeth yn nodi sut y gall y Llywodraeth gefnogi arloesedd ac ymchwil yn y DU er mwyn hybu gwerth a chefnogi twf.
  • Mae **polisiau newydd **yn cynnwys cydariannu gwobrau cymhelliant (NESTA), cefnogaeth Dylunio ar gyfer y Rhaglen Dylunio Galw, cynyddu ymgeisio am adnoddau’r UE i gefnogi arloesedd, cronfa ar y cyd gyda’r Weinyddiaeth Tsieineaidd a gweithio gyda gweinyddiaethau datganoledig i gynyddu arloesedd yn y sectorau bwyd-amaeth a chyfleustodau.
  • Mae Estnest yn rhwydwaith arbennig i aelodau o Fforwm Electroneg Cymru, sef rhwydwaith sy’n cynrychioli un o’r sectorau mwyaf deinamig ledled byd. Mae’r rhwydwaith yn cynghori bod angen i gwmniau technoleg weithredu yn hytrach nag ymateb, a chydweithio yn hytrach na pharhau’n ynysig, i sicrhau eu bod yn parhau i adeiladu busnesau cynaliadwy a chystadleuol.
  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.est.uk.net  
  • Mae’r mesurau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i hybu twf yn cynnwys torri treth gorfforaeth i’r gyfradd isaf yn y G7, lleihau biwrocratiaeth drwy gael gwared a rheoliadau sy’n costio dros £350 miliwn y flwyddyn i fusnesau, diwygio’r system cynllunio a hybu buddsoddiad ac allforio i ail-gydbwyso’r economi drwy sefydlu Ardaloedd Menter a’r Gronfa Twf Rhanbarthol.
Cyhoeddwyd ar 30 January 2012