Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod canlyniad y refferendwm UE

Bydd Alun Cairns yn cyfarfod arweinwyr busnes yng Ngogledd Cymru a chynrychiolwyr o lywodraeth leol, addysg uwch a'r sector twristiaeth ar ddydd Iau i drafod canlyniad y refferendwm UE.

Secretary of State for Wales, Rt Hon Alun Cairns MP

Mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor, bydd Alun Cairns yn gwrando ar eu pryderon ynghylch canlyniad y refferendwm ac yn nodi sut y gall Llywodraeth y DU eu helpu i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai uned Undeb Ewropeaidd arbennig yn cael ei chreu yn Swyddfa’r Cabinet er mwyn mynd i’r afael â materion cymhleth fel cytuniadau masnachu a chytundebau cyfreithiol

Dywedodd Alun Cairns:

Mae busnesau a sefydliadau eraill yng ngogledd Cymru angen sicrwydd y bydd y llwybr tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd mor esmwyth â phosibl, ac rwy’n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i’w helpu nhw i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan sylwadau a wnaed gan sefydliadau busnes yng Nghymru sy’n ymateb yn gadarnhaol i’r heriau sydd o’n blaenau, ac sy’n awyddus i adeiladu ar y seiliau economaidd cryf sydd eisoes yn eu lle.

Fel rhan annatod o Bwerdy’r Gogledd, mae angen i fusnesau a’r sector addysg uwch yng ngogledd Cymru wneud y gorau o botensial cysylltiadau agosach â dinasoedd gogledd Lloegr, a’r nod sydd gennyf yw eu cefnogi nhw fel y gall economi gogledd Cymru barhau i ffynnu.

Cyhoeddwyd ar 7 July 2016